THE DETAILS:
  • Location: Ysgol Gynradd Gymraeg Cynwyd Sant,
  • Hours: Part time
  • Contract: Not Specified
  • Salary Type: Annual
  • Salary: £2,824 y flwyddyn
  • Language: Welsh
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Cynorthwy-ydd Goruchwyliaeth - Ysgol Cynwyd Sant (Dros Dro)

Bridgend County Borough Council

Salary: £2,824 y flwyddyn

Cynorthwy-ydd Goruchwyliaeth - Ysgol Cynwyd Sant (Dros Dro)
Job description
5 awr yr wythnos

Dros dro hyd at 31 Awst 2026

Amser Tymor

Mae’r Corff Llywodraethol yn dymuno penodi aelod o staff amser cinio sy’n ddibynadwy, llawen a gofalgar i oruchwylio’r disgyblion yn ystod amser cinio.

Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos y gallu i weithio’n effeithiol fel rhan o dîm ac yn annibynnol, dilyn cyfarwyddiadau yn gywir, a chyfathrebu’n hyderus gyda phlant ac oedolion fel ei gilydd.

Mae'r gallu i sgwrsio â chwsmeriaid ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn hawdd drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o ofynion y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 26 Tachwedd 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person