THE DETAILS:
- Location: Rhondda Cynon Taf,
- Hours: Part time
- Contract: Temporary
- Salary Type: Annual
- Salary: Gradd 3 £25,185 x 47.47%
- Language: Welsh
This job application date has now expired.
Salary: Gradd 3 £25,185 x 47.47%
Cynorthwyydd Cymorth Anghenion Arbennig Dros DroYSGOL GYNRADD GYMRAEG YNYSWEN
Clinic Rd,
Ynyswen,
Treorci,
Rhondda Cynon Taf,
CF42 6ED
Cynorthwyydd Cymorth Anghenion Arbennig Dros Dro
Nifer yr oriau fesul wythnos: 20 Oriau (Tymor yr ysgol yn unig)
Cyflog: Gradd 3 £25,185 x 47.47%
Gontract: Dros Dro – 31/08/2026
Dyddiad dechrau'r swydd: Cyn gynted â phosibl
Dymuna Corff Llywodraethol Ynyswen apwyntio gynorthwyydd brwdfrydig, sensitif a chydwybodol.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio dan arweiniad y staff Addysgu a defnyddio ei flaengaredd i weithredu rhaglenni gwaith cytûn, gydag unigolion/grwpiau, yn yr ystafell ddosbarth a’r ardal tu allan. Disgwylir i’r ymgeisydd sefydlu perthynas gadarnhaol gyda disgyblion, gan fod yn esiampl dda a gosod disgwyliadau uchel trwy gyfrwng y Gymraeg. Disgwylir i’r ymgeisydd weithio gyda'r athrawes a staff cefnogi er mwyn sefydlu amgylchedd dysgu priodol yn unol â chynlluniau gwersi a chynorthwyo ag arddangos gwaith disgyblion. Edrychwn ymlaen at groesawu aelod newydd i dîm llwyddiannus Ynyswen.
Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am y swydd, ffoniwch Cerian Roberts, Pennaeth, ar 01443 772432 nodwch rif ffôn.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol nos (12pm) ar 21/11/2025.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.