THE DETAILS:
  • Location: Llanisien, Cardiff, CF14 5GF
  • Subject: Youth Work Program Manager
  • Hours: Full Time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annually
  • Salary Range: £31,140 - £35,364
  • Language: Welsh

This job application date has now expired.

Rheolwr Rhaglen Gwaith Ieuenctid (Prentisiaethau)

Rheolwr Rhaglen Gwaith Ieuenctid (Prentisiaethau)

Teitl y Swydd: Rheolwr Rhaglen Gwaith Ieuenctid (Prentisiaethau)

Math o gontract: Llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa: Graddfa 6: £31,140 (Pwynt 1) - £35,364 (Pwynt 4)

Lleoliad: Ystyriwn geisiadau o ardraws Gymru


Amdanom ni

Mae’r Urdd wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Ar drothwy ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

Ein nod yw gweithio mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid i ddatblygu darpariaeth o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw meithrin gweithlu ifanc, hyderus a dwyieithog trwy ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc i ddysgu, i ddatblygu’n bersonol a chymdeithasol, ac i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg.

Y Swydd

Mae Cynllun Prentisiaethau’r Urdd yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, phrofiadol a gymwys i ymuno ar Adran Prentisiaethau fel Rheolwr Rhaglen Gwaith Ieuenctid.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Catrin Davis (Rheolwr Prentisiaethau) neu Gary Lewis (Cyfarwyddwr Chwaraeon a Phrentisiaethau).
catrindavis@urdd.org
gary@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org

Dyddiad Cau – 24.09.2021
Dyddiad Cyfweld – I'w gadarnhau

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.