THE DETAILS:
  • Location: Llanisien, Cardiff, CF14 5GF
  • Subject:
  • Hours: Full Time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annually
  • Salary Range: £21,436 - £23,997
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 10 August, 2021 5:00 PM

This job application date has now expired.

Swyddog Gweinyddol Data

Swyddog Gweinyddol Data

Teitl y Swydd: Swyddog Gweinyddol Data

Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa: G3 £21,463 (Pwynt 1) - £23,997 (Pwynt 4)

Lleoliad: Swyddfa’r Urdd, Llanisien, Caerdydd

Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad sy’n parhau i dyfu ac arloesi, ac yn un o’r cyflogwyr mwyaf sy’n gweithredu trwy'r Gymraeg. Fe sefydlwyd yn 1922, ac erbyn heddiw cyflogir dros 300 o staff, bron 55,000 o aelodau, 10,000 o wirfoddolwyr a throsiant o £10m. Byddwn yn dathlu ein pen-blwydd yn 100 yn 2022 gan weithio gydag ein haelodau a’n gwirfoddolwyr ynghyd ac amryw o bartneriaid sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, S4C, BBC, Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Chwaraeon Cymru, Ysgolion a Cholegau Cymru.

Ein nod yw gweithio mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid i ddatblygu darpariaeth o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw meithrin gweithlu ifanc, hyderus a dwyieithog trwy ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc i ddysgu, i ddatblygu’n bersonol a chymdeithasol, ac i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg.

https://www.urdd.cymru/cy/prentisiaethau/

Y Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i berson eiddgar, trefnus a brwdfrydig i ymuno ag Adran Prentisiaethau'r Urdd fel Swyddog Gweinyddol Data.


Am fwy o fanylion cysylltwch â Catrin Davis (Pennaeth Prentisiaethau) neu Gary Lewis (Cyfarwyddwr Chwaraeon a Phrentisiaethau) gary@urdd.org / catrindavis@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org

Dyddiad Cau – 10/08/2021
Dyddiad Cyfweld – I'w gadarnhau