THE DETAILS:
  • Location: Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 5DB
  • Subject: Teacher
  • Hours: Part Time
  • Contract: Temporary
  • Salary Type: Annually
  • Salary Range: £27,491 - £42,333
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 10 February, 2023 12:00 PM

This job application date has now expired.

Athro/ Athrawes Dros Dro

Athro/ Athrawes Dros Dro

Heol y Celyn Primary School
Ysgol Gynradd Heol Y Celyn
Stryd Holly
Rhydyfelin
Pontypridd
CF37 5DB

Athro/ Athrawes Dros Dro (Blwyddyn 5 a 6)

Graddfa Cyflog Athrawon
Rhan amser 3 diwrnod (19½ awr yr wythnos) hyd at Awst 2023 a wedyn 4 diwrnod (26 awr yr wythnos) hyd at Awst 2024)
Dyddiad Dechrau: cyn gynted â phosibl Contract dros dro tan Awst 2024

Mae'r Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi athro cydwybodol, brwdfrydig a chymwys iawn, sy'n gallu cymell a dysgu dosbarthiadau ar draws y cyfnod cynradd yn llwyddiannus. Byddem yn disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gael profiad o ddefnyddio TGCh fel offeryn addysgu a dysgu yn gymwys ar draws y cwricwlwm.

Mae Heol y Celyn yn ysgol lwyddiannus, gynhwysol a chefnogol gyda hanes da o gyflawniadau disgyblion. Mae gennym dîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr, sy'n ceisio cymell a chefnogi disgyblion i'w galluogi i ddatblygu a chyflawni eu potensial. Felly, rydym yn ceisio penodi athro neu athrawes, sydd â sgiliau ymarferydd dosbarth rhagorol, gyda disgwyliadau uchel o ran cyflawniad ac ymddygiad. Rhaid iddynt hefyd gyfrannu'n frwdfrydig at ethos cynhwysol a phrofiad cyfannol disgyblion, yn ogystal â chyfrannu at ddiwylliant yr ysgol o welliant parhaus.

Rydym hefyd yn chwilio am athro neu athrawes, sydd â'r gallu i weithio o fewn tîm cryf a chyfrannu at ddatblygu'r cwricwlwm. Rhaid iddynt hefyd geisio meithrin perthnasoedd cadarnhaol a gweithio'n agos gyda rhieni, ysgolion clwstwr a'r gymuned ehangach.
Dylai ymgeiswyr nodi eu cryfderau cwricwlaidd ac unrhyw sgiliau allgyrsiol y gallant eu cynnig i'r ysgol.

Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cynnal gwers ac yna'n cael eu gwahodd i gyfweliad.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am y swydd, cysylltwch â Mrs C Jones, Pennaeth, ar (01443) 490750 rhowch rif ffôn.

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol Dydd Gwener 10fed o Chwefror am 12.00 y prynhawn.

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.