THE DETAILS:
  • Location: Swansea,
  • Salary Type: Not Supplied
  • Language: English
  • Closing Date: 08 April, 2024 12:00 AM

This job application date has now expired.

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe: Ymarferydd Arweiniol

Swansea Council
Mae corff Llywodraethu yr ysgol am apwyntio 'Ymarferydd Arweiniol' gyda'r gallu i ddysgu Gwyddoniaeth (Cemeg neu Ffiseg) hyd at safon Uwch. Bydd gan y person yma hanes o ardderchogrwydd mewn addysg, bydd yn gallu ysbrydoli disgyblion a chydweithwyr ac yn barod i ddatblygu strategaethau dysgu blaengar i wella safonau disgyblion.

Ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer ei holl ddisgyblion. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau'r ysgol yn ogystal â sicrhau'r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.

Bydd yr Ymarferydd Arweiniol Gwyddoniaeth yn:
  • ymarferydd rhagorol â phrofiad o ysbrydoli disgyblion o bob gallu i gyrraedd safonau uchel yn gyson.
  • athro Gwyddoniaeth (Bioleg neu Ffiseg) rhagorol, sydd yn darparu addysgu rhagorol, gyda'r canlyniadau i'w brofi; sy'n uchelgeisiol ac yn llawn cymhelliant i arwain eraill ar agweddau o addysgu a dysgu yn yr ysgol.
  • gwneud popeth posibl i godi ansawdd yr addysgu a'r dysgu yn yr Adrannau / MDaPh cyswllt yn ogystal ag ymuno â'r tîm ymchwil sydd yn arwain addysgu a dysgu ar draws yr ysgol.
  • gwneud popeth posibl i godi ansawdd yr addysgu a'r dysgu ar draws yr ysgol ac yn uniongyrchol gyda'r bobl y maent yn cyd-weithio gyda hwy.
  • cefnogi'r Uwch Dîm Arwain i greu diwylliant o welliannau cyson a bod yn arweinydd ysbrydoledig, wedi ymrwymo i'r cyflawniadau uchaf i bawb ym mhob maes o waith yr ysgol.
  • unigolyn gyda'r safonau a'r disgwyliadau uchaf o ran cyflawniad ac ymddygiad ar gyfer pob disgybl yn yr ysgol.
  • gweithio i oresgyn unrhyw rwystrau dysgu; yn angerddol dros welliant parhaus yr ysgol ac yn gweithredu'n deg ac yn gyson gyda disgyblion a staff yr ysgol yn ddyddiol.
  • rhoi blaenoriaeth i ddatblygu'r Gymraeg yn iaith fyw ymysg disgyblion a'u rhieni.
  • gyfathrebwr arbennig fydd yn ysbrydoli disgyblion, rhieni a holl randdeiliaid yr ysgol
  • ymrwymedig i ddatblygu ymhellach ac adeiladu ar bartneriaethau presennol gyda'n teuluoedd a'r gymuned yn ehangach.

Os ydych chi'n berson sydd yn meddu ar y rhinweddau rydym ni yn chwilio amdanynt, byddem yn falch iawn i dderbyn llythyr cais (heb fod yn fwy na dwy ochr A4) gennych yn amlinellu'ch:
  • gweledigaeth i wella dysgu o fewn yr ysgol;
  • profiad a'r rhesymau pam y byddech yn gallu gwireddu'r weledigaeth yma.

  • Gweler y swydd ddisgrifiad am fanylion pellach y rôl.

    Dyddiad cau: Dydd Llun 8fed o Ebrill 2024 am 12:00 y.h.
    Rhestr fer: Dydd Llun 8fed o Ebrill 2024
    Cyfweliadau: I'w cadarnhau

    Dylid cyflwyno ffurflen a llythyr cais i reolwraig busnes yr ysgol, Mrs Eirian Leonard. Am unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r swydd, cysylltwch gyda Mrs Leonard ar: 01792 560605; neu drwy e-bost: LeonardE18@hwbcymru.ne t

    Diogelu
    Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
    I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.swansea.gov.uk/diogelucorfforaethol

    Disgrifiad swydd - Ymarferydd Arweiniol (Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe) (PDF) [220KB]

    Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc) [120KB]