THE DETAILS:
  • Hours: Full time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Not Supplied
  • Language: Welsh

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Dosbarth CA2 (Ysgol Pontrobert)

Powys County Council
Athro/Athrawes Dosbarth CA2 (Ysgol Pontrobert)
Job description
Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol

Welsh language skills are essential

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau Cyffredinol

Mae rôl yr athro/athrawes yn ogystal â goblygiadau cytundebol a nodir yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon (gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud ag amser dan gyfarwyddyd a darparu egwyl rhesymol yn ystod y diwrnod ysgol), yn cynnwys y canlynol:
  • Cynllunio, paratoi a gwerthuso gwersi.
  • Meistrolaeth gadarn o'r iaith Gymraeg yn llafar ac yn ysgrifenedig.
  • Darparu tystiolaeth ysgrifenedig o gynllunio, paratoi a gwerthuso, ynghyd â chofnodion o waith a gyflawnir.
  • Dysgu yn unol ag anghenion a galluoedd addysgol disgyblion, yn unol â pholisi'r ysgol a gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol.
  • Meithrin lles cyffredinol y disgyblion a sicrhau fod y dosbarth yn cyflwyno amgylchedd hapus a chefnogol.
  • Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS.