THE DETAILS:
  • Hours: Part time
  • Contract: Fixed Term
  • Salary Type: Annual
  • Salary: Graddfa Gyflog o fewn: £30,742 - £47,340\n
  • Language: English

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes - Ysgol Gymunedol Maenclochog

Pembrokeshire County Council

Salary: Graddfa Gyflog o fewn: £30,742 - £47,340\n

Disgrifiad Swydd

Mae'r swydd hon yn rôl cyfnod penodol 3 diwrnod yr wythnos tan ddiwedd mis Mai 2025 (Cyfnod Mamolaeth).

Mae Llywodraethwyr Ysgol Maenclochog am benodi athro/athrawes brwdfrydig i ymuno â'r ysgol llwyddiannus a bywiog yma dros gyfnod mamolaeth.

Bydd disgwyl i'r athro/athrawes arwain dosbarth oed Meithrin a Derbyn.

Rydym ni'n ysgol hapus a chroesawgar sydd a'i chalon yn y gymuned.

Lleolir ein hysgol ym mhentref Maenclochog ac mae hi'n ysgol Gymraeg a disgwylir fod yr ymgeisiwyr yn rhugl yn y Gymraeg.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn uchel ei gymhelliant gyda disgwyliadau uchel ar gyfer dysgu disgyblion.

Rydym angen rhywun sy'n:

  • yn athro ysbrydoledig
  • wedi ymrwymo i weithio gyda theuluoedd i sicrhau bod pob plentyn yn hapus, hyderus, creadigol a chwilfrydig
  • y gallu i ysgogi, ysbrydoli a chefnogi cydweithwyr
  • yn greadigol, yn arloesol ac yn bositif

Mae croeso i chi ymweld â'r Ysgol. Cysylltwch â'r Pennaeth, Mr Edryd Eynon, drwy e-bost eynone7@hwbcymru.net i drefnu apwyntiad

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.