THE DETAILS:
  • Location: Lampeter,
  • Hours: Full time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annual
  • Salary: 51,515 - 53,558 *
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 13 June, 2024 12:00 AM

This job application date has now expired.

Welfare Leader - Ysgol Bro Pedr

Ceredigion County Council

Salary: 51,515 - 53,558 *

About the role
The following is an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential./

Erbyn 2il o Fedi 2024, mae Corff Llywodraethol Ysgol Bro Pedr am benodi Arweinydd Lles eiddgar sydd â'r weledigaeth a'r gallu i arwain, ysbrydoli ac ysgogi cymuned gyfan. Mae Ysgol Bro Pedr yn falch o gynnig y cyfle cyffrous hwn i arbenigwr lles a diogelu sy'n brofiadol wrth ymgysylltu â theuluoedd i ymuno â'n Tîm Arwain fel Arweinydd Lles. Rydym yn chwilio am arweinydd rhagorol gyda hanes profedig o lwyddiant mewn lles a diogelu. Bydd gan y sawl a benodir yr angerdd, egni a'r brwdfrydedd i gefnogi'r Pennaeth a'r Tîm Arwain wrth arwain yr ysgol. Pwrpas craidd y rôl fydd darparu arweiniad strategol a chyfeiriad o ran lles, diogelu, presenoldeb, ymgysylltiad teuluol, cwynion a chynhwysiant o fewn yr ysgol.

Mae Ysgol Bro Pedr yn ysgol flaengar a chyffrous. Gwahoddir ceisiadau gan arweinwyr profiadol, sy'n frwdfrydig ac ysbrydoledig, i adeiladu ar y dreftadaeth gref hon. Rydym yn falch iawn ein bod yn:
  • ysgol hapus a gwâr yng nghalon ein cymuned
  • dathlu cynnydd a llwyddiannau pawb yn ddi-wahân
  • gofalu am ein gilydd ac am eraill
  • anelu am y gorau bob tro
  • cynnig addysg a phrofiadau o'r radd flaenaf
Dewch i ymuno â thîm cefnogol, brwdfrydig a blaengar yn yr ysgol 3-19 hon. Bydd y sawl a benodir yn cynorthwyo yn y broses o arwain a rheoli'r ysgol ac yn meddu ar nodweddion arweinyddiaeth a rheolaeth ragorol a fydd yn:
  • hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb
  • dylanwadu ar gydweithwyr trwy osod esiampl fel model rôl ysbrydoledig sydd yn drefnus a chydwybodol
  • cysylltu â staff, disgyblion a rhieni i annog ethos gwaith effeithiol
Mae'r ysgol yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn un o ysgolion cyntaf 3-19 Cymru, ac yn torri tir newydd o ran darparu addysg gydol oed ar gyfer ein disgyblion. Mae Ysgol Bro Pedr yn gyfuniad o ddwy ysgol flaenorol, sef Ysgol Gynradd Ffynnonbedr ac Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan. Cafodd Ysgol Bro Pedr ei harolygiad Estyn diwethaf yn Hydref 2016. Er bod nifer o ddisgyblion yn cychwyn yn yr ysgol yn 3 oed, daw nifer yn ogystal o ysgolion cynradd partner eraill o'r Awdurdod Lleol ac o Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin. Mae 1,007 o ddisgyblion ar rôl yr ysgol - 329 o ddisgyblion Meithrin i flwyddyn 6 a 678 o ddisgyblion Blwyddyn 7-13 (sy'n cynnwys 67 o ddisgyblion ym mlwyddyn 12 a 69 o ddisgyblion ym mlwyddyn 13).

Daw 70% o ddisgyblion yr ysgol o gartrefi lle nas defnyddir y Gymraeg. Mae'r disgyblion yn cael eu ffrydio'n ieithyddol, gyda dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg a dosbarthiadau Cymraeg Ail-Iaith ym mlynyddoedd 3-13. Mae'r ysgol wedi mynd trwy ymgynghoriad llwyddiannus yn ddiweddar sy'n golygu bod disgyblion y Cyfnod Sylfaen i gyd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Ar hyn o bryd, mae 24.42% o'n disgyblion yn hawlio prydiau ysgol am ddim (20.64% o'n disgyblion oed uwchradd a 32.21% o'n disgyblion oed cynradd). Mae'r ysgol yn darparu ar gyfer ystod lawn o alluoedd. Mae 11.02% o'n disgyblion Saesneg fel Iaith Ychwanegol, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae'r ganran yn uwch o fewn yr oed cynradd (12.46%) o'i gymharu â'r oed uwchradd (10.32%). Mae proffil poblogaeth yr ysgol yn gosmopolitan, gyda Chymry cynhenid Ceredigion a Sir Gâr, canran uchel o siaradwyr Cymraeg, ond sydd o gefndir Seisnig, nifer gynyddol o ddisgyblion sy'n hwyrddyfodiaid i'r ardal a'r ysgol a chanran sylweddol o ddisgyblion o Wlad Pwyl, Rwmania a chanran llai o ddisgyblion o Falaysia a China.

Lleolir Canolfan Y Bont, sef adnodd sirol ar gyfer disgyblion o oed uwchradd ag anghenion amrywiol (ASD, SLD, PMLD, MSI), ar safle'r ysgol. Mae'r ganolfan yn rhan lawn o'r ysgol, ac mae'r disgyblion ar rôl Ysgol Bro Pedr. Yn ogystal, sefydlwyd Uned Sgiliau Bywyd sy'n darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol lled ddwys a disgyblion ymddygiadol bregus a chynigai barhad a dilyniant i rai o ddisgyblion Canolfan y Bont lle'n berthnasol ac ymarferol. Mae yna 14 o ddisgyblion yn mynychu Canolfan Y Bont a 22 o ddisgyblion yn mynychu'r Uned Sgiliau Bywyd, ar hyn o bryd.

Ym mis Medi 2024, mi fydd Tîm Arwain Ysgol Bro Pedr yn cynnwys: Pennaeth, Dirprwy Bennaeth, dau Bennaeth Cynorthwyol, Arweinydd Lles ac Arweinydd Cynnydd.

Pecyn Gwybodaeth

Am fwy o wybodaeth neu drefnu ymweliad cysyllter â Chadeirydd y Llywodraethwyr drwy Glerc y Llywodraethwyr Angela.Jones3@ceredigion.gov.uk

Proses ymgeisio

Dyddiad cau - Dydd Iau, 13eg o Fehefin 2024

Cyfweliadau - Dydd Mercher, 19eg o Fehefin 2024

Dyddiad Dechrau - Dydd Llun, 2il o Fedi 2024

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

What we offer

Work-life balance

Lifestyle savings scheme

Generous employer pension scheme

Cycle to work scheme

Learning and development

Where you'll work

Schools and Culture
We offer appropriate challenge and support to our schools, to help them deliver first class education to all pupils, across the age and ability range. Our primary functions are as follows:
  • School Improvement: Leadership; Support and Challenge, Teaching and Learning; Digital Literacy; Literacy and Numeracy; Welsh in Education
  • Additional Learning Needs: Provision for pupils with Additional Learning Needs, Inclusion; Attendance; Educational Psychology
  • Pupil Wellbeing:Counselling; Welfare; Anti-Bullying, Pupil Voice
  • Education Governance: Data ; Governor Support, Policy support
  • School Admissions
  • Culture: Music Service; Cered; Felinfach Theatre; Museum
  • Infrastructure and Resources: Planning School Places; Modernisation and Twenty First Century Schools Programme; Buildings; Grants
  • Catering: Day Centres; Primary Schools; Residential homes.
  • Childcare Unit: Childcare Sufficiency Assessment; Childcare & Play Grant; Childcare Offer; Out of School (After School Clubs and Holiday Playschemes); Day Nursery, Cylch/Playgroup & Childminder business support and staff training
Lampeter Lampeter is a busy local commercial centre.
Read more