THE DETAILS:
Apply Now (CY)
- Location: Rhondda Cynon Taf,
- Hours: Part time
- Contract: Temporary
- Salary Type: Annual
- Salary: Gradd 6 - £27,269 (Amser llawn) x 68.25%
- Language: Welsh
- Closing Date: 02 May, 2025 12:00 AM
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Salary: Gradd 6 - £27,269 (Amser llawn) x 68.25%
Cynorthwy-ydd Addysgu (Lefel 3) - YGG Evan JamesYSGOL GYNRADD GYMRAEG EVAN JAMES
Ffordd Y Rhondda
Pontypridd
CF37 1HF
Cynorthwy-ydd Addysgu (Lefel 3)
Oriau: 28¾ awr yr wythnos – yn ystod tymhorau’r ysgol yn unig
Cyflog – Gradd 6 - £27,269 (Amser llawn) x 68.25%
Dyddiad dechrau: Medi 1af, 2025
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James am benodi person cyfeillgar, cydwybodol a brwdfrydig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol da ac yn medru sefydlu perthynas dda wrth weithio gyda phlant, athrawon a rhieni. Mae’r gallu i gyfathrebu yn hyderus yn y Gymraeg yn hanfodol.
Mae ffurflenni cais, a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd, ar gael ar wefan Swyddi Ysgolion:
https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?USESSION=C0A604064EDDAA8962C0EFC1412CCE2F&WVID=2482495vvA&LANG=CYM
Os ydych yn cael eich cyflogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, gwnewch gais am y swydd drwy eich cyfrif hunanwasanaeth cyflogai ac nid drwy'r ddolen uchod. Os oes gennych unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich cyfrif Hunanwasanaeth Gweithiwr, cysylltwch â thîm iTrent ar 01443 680760 neu itrentadmin@rctcbc.gov.uk.
Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
Mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Mrs Emma Smith am fwy wybodaeth ac i ymweld â’r ysgol (01443 486813)
Dyddiad cau: Dydd Gwener, Mai 2il, 2025 am 12:00 y.p.
Mae amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb i'r ysgol a'r cyngor. yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y gwasanaeth datgelu a gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.