THE DETAILS:
Apply Now (CY)
- Location: Rhondda Cynon Taf,
- Hours: Full time
- Contract: Temporary
- Salary Type: Annual
- Salary: Gradd 6 - £27,269 x 65.28%
- Language: Welsh
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Salary: Gradd 6 - £27,269 x 65.28%
Cynorthwy-ydd Dosbarth - Lefel 3 - Ysgol Gynradd DolauCYNGOR RHONDDA CYNON TAF
YSGOL GYNRADD DOLAU
HEOL PENYBONT, LLANHARAN, PONTYCLUN, RCT, CF72 9RP
CYNORTHWY-YDD DOSBARTH - LEFEL 3
Oriau: Llawn amser 27.5 awr yr wythnos
Gradd 6 - £27,269 x 65.28%
Yn angen: mis Medi 2025
Mae Llywodraethwyr Ysgol Dolau am benodi cynorthwy-ydd dosbarth lefel 3 frwdfrydig ac ymroddedig i weithio yn ein Hadran Gymraeg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda thîm Cyfnod Sylfaen rhagorol, yn rhugl yn y Gymraeg ac:
- yn gallu dangos egni, uchelgais, ymrwymiad a safonau uchel
- yn cynorthwy-ydd dosbarth ysbrydoledig ac yn gallu cefnogi profiadau dysgu o ansawdd uchel
- yn addasadwy ac yn arloesol
- wedi ymrwymo'n gryf i weithio'n agos gydag athrawon, rhieni, y Corff Llywodraethol a'r gymuned ehangach
- yn ddymunol, yn hawdd mynd ato ac yn anelu at ragoriaeth.
Bydd unrhyw ddiddordebau ychwanegol neu feysydd arbenigedd o fantais.
Yn gyfnewid, gallwn gynnig:
- ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol
- ysgol gyda dyheadau uchel a chyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth
- cyfle i helpu i lunio dyfodol addysgu a dysgu
- tîm o lywodraethwyr ymroddedig a chefnogol.
Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 20 Mehefin 2025 12:00 y.p.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.