THE DETAILS:
Apply Now (CY)
- Location: Cardigan,
- Hours: Part time
- Contract: Fixed Term
- Salary Type: Annual
- Salary: 32,433 - 49,944 *
- Language: Welsh
- Closing Date: 07 July, 2025 12:00 AM
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Salary: 32,433 - 49,944 *
About the rolePlease note that the advertised salary for this position is subject to a pending pay award. The final salary will be adjusted in line with the nationally agreed pay award.
The following is for an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Mae Ysgol Gynradd Penparc yn chwilio am athro neu athrawes ysbrydoledig, empathetig ac ymroddgar i ymuno â'n tîm hapus a chefnogol o fis Medi 2025 ymlaen.
Mae'r swydd yn 0.4 i ddechrau, ond gyda'r posibilrwydd y gallai'r oriau gynyddu wrth i nifer y disgyblion yn yr ysgol barhau i dyfu. Mae'r ysgol yn agored i drafod pa oedran y byddai'r aelod newydd yn ei addysgu, ac yn hyblyg o ran pa ddyddiau gwaith fyddai'n fwyaf addas.
Ysgol hapus a chroesawgar yw Penparc, lle mae gofal a lles disgyblion, staff a'r gymuned ehangach yn ganolog i bopeth a wnawn. Credwn fod ymddiriedaeth, cefnogaeth ac uchelgais yn sylfeini pwysig ar gyfer cynnydd a llwyddiant pob unigolyn.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n:
- broffesiynol, llawn brwdfrydedd ac yn bositif o ran agwedd
- meddu ar ymdeimlad cryf o ofal, sensitifrwydd ac empathi
- ystyriol a chreadigol yn ei ddulliau addysgu
- barod i gyfrannu'n llawn at fywyd cymunedol yr ysgol
- hyderus wrth ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion, rhieni a chydweithwyr
- yn medru creu amgylchedd dysgu ysgogol a chefnogol
- yn barod i ddysgu ac ymroi i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac ymholi er mwyn cwrdd â gofynion gwahanol y disgyblion o'u blaenau
- yn gallu defnyddio data a gwybodaeth i lywio dysgu effeithiol a thargedu cynnydd pob un ar eu lefelau hwy
- yn rhannu gweledigaeth yr ysgol ar gyfer lles, cynnydd a chyfle cyfartal
Bydd yr aelod newydd o staff yn cael eu croesawu'n gynnes ac yn derbyn cefnogaeth barhaus gan dîm profiadol a gofalgar yr ysgol. Croesawn geisiadau gan athrawon profiadol yn ogystal ag athrawon sy'n dechrau ar eu gyrfa. Ein blaenoriaeth yw dod o hyd i'r unigolyn mwyaf addas i ymuno â'n cymuned ysgol arbennig.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun y 7fed o Orffennaf
Dyddiad cyfweliadau: Dydd Llun y 14eg o Orffennaf
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Mr Trystan Phillips neu Mrs Nicola Roscoe ar 01239 810586. Mae croeso i chi gysylltu am sgwrs cyn hynny, ac i drefnu ymweliad â'r ysgol pe dymunech.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
What we offer
Work-life balance
Lifestyle savings scheme
Generous employer pension scheme
Cycle to work scheme
Learning and development
Where you'll work
Cardigan Cardigan is the historic gateway into Ceredigion from the south west.
Read more