THE DETAILS:
  • Location: Pontypwl, Blaenau Gwent, NP4 0HZ
  • Subject: Youth Officer
  • Hours: Full Time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annually
  • Salary Range: £21,436 - £23,997
  • Language: Welsh

This job application date has now expired.

Swyddog Ieuenctid Casnewydd a Mynwy

Swyddog Ieuenctid Casnewydd a Mynwy

Teitl y Swydd: Swyddog Ieuenctid Casnewydd a Mynwy

Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa: Graddfa 3 £21,436 (Pwynt 1) - £23,997 (Pwynt 4)

Lleoliad: Ardal Casnewydd


Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922, wedi cyflawni llawer wrth gynnig profiadau Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol a Gwirfoddoli i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru. Heddiw mae gan yr Urdd 55,000 o aelodau. Mae hyn wedi eu galluogi i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau a chymdeithas, ymestyn eu gorwelion a chynyddu eu hunan hyder.

Mae’r Urdd wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Ar drothwy ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.


Anfonwch Ffurflen Mynegi Diddordeb ar e-bost at swyddi@urdd.org


Os oes gennych unrhyw gwestiwn, plîs cysylltwch â Sian Rogers, Cyfarwyddwr Ieuenctid a Chymuned ar SianRogers@urdd.org


Dyddiad Cau: 28.06.21
Dyddiad Cyfweld: I’w gadarnhau

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol