THE DETAILS:
  • Location: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Subject: Lecturer
  • Hours: Part Time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annually
  • Salary Range: £27,382 - £42,326
  • Language: English
  • Closing Date: 09 December, 2022 11:45 PM

This job application date has now expired.

Darlithydd Cymdeithaseg

Darlithydd Cymdeithaseg

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd Cymdeithaseg Rhan Amser
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Parhaol, Rhan-amser (27 awr yr wythnos)
Cyflog: £27,382 i £42,326 (Pro Rata). Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Colofnau Cyflog Uwch.
Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Cymdeithaseg Rhan Amser i gyflwyno ein cyrsiau Cymdeithaseg UG a Safon Uwch.

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd, rhaid i chi gael profiad profedig a chymhwysedd mewn darlithio Cymdeithaseg fel pwnc a meddu ar addysg hyd at lefel gradd.

Fel Darlithydd yng Ngholeg Cambria, bydd gofyn i chi ddarparu gwaith dysgu ymarferol ac yn y dosbarth i’n myfyrwyr. Byddwch yn gyfrifol am gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â sicrhau diogelwch a lles ein myfyrwyr bob amser.

Gofynion Hanfodol
● Cymhwyster lefel 6/lefel gradd o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
● Cymhwyster Addysgu (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407)
● Gallu canfod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i’w harfer
● Sgiliau llythrennedd digidol da
● Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Bydd gofyn i chi gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro/Athrawes Addysg Bellach hefyd.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.