THE DETAILS:
  • Location: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Subject: Tutor
  • Hours: Full Time
  • Contract: Fixed Term
  • Salary Type: Annually
  • Salary Range: £21,506 - £42,326
  • Language: Bilingual

This job application date has now expired.

Advance into Further Education Lecturer

Advance into Further Education Lecturer

Gower College Swansea
Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi twf rhaglenni Dilyniant i AU Coleg Gwyr Abertawe. Mae’r Coleg yn chwilio am unigolyn cymwysedig, ymroddedig a brwdfrydig i addysgu nifer o unedau (Dilyniant i AU) gan gynnwys Mynediad 3, Lefel 1 a Lefel 2. Mae’r rhaglenni hyn yn cefnogi dysgwyr nad ydynt wedi penderfynu ar eu llwybr gyrfa.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau rheoli dosbarth rhagorol ynghyd â dycnwch, ymrwymiad ac amynedd i ddelio â myfyrwyr sy’n ymddwyn mewn ffyrdd heriol.

Byddwch yn datblygu a defnyddio ystod eang o strategaethau addysgu a dysgu, ac yn defnyddio TG mewn modd effeithiol i sicrhau ardderchowgrwydd a chyflawniad targedau at ddibenion cyrraedd a chadw.

Byddwch yn gyfathrebwr clir ac yn medru ysbrydoli myfyrwyr, gan greu amgylchedd dysgu positif sy’n hybu potensial pob dysgwr. Bydd angen i chi hefyd weithredu fel tiwtor personol.

Byddwch yn gymwys hyd at lefel gradd gyda phrofiad o gyflwyno cyrsiau BTEC ar unrhyw lefel. Byddai cefndir mewn chwaraeon neu wasanaethau cyhoeddus neu ddiddordeb yn y meysydd hyn yn fuddiol. Byddwch yn meddu ar/neu'n barod i weithio tuag at gymhwyster addysgu cydnabyddedig ac yn gallu addasu eich arddull addysgu i gwrdd ag anghenion amrywiaeth o wahanol grwpiau oedran.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar. <u></u><u></u>

Cyflog: £21,506 - £42,326 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.