THE DETAILS:
  • Location: Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 1HF
  • Subject: Teacher
  • Hours: Full Time
  • Contract: Temporary
  • Start Date: 13 March, 2023
  • End Date: 24 March, 2023
  • Salary Type: Annually
  • Salary Range: £28,866 - £44,450
  • Language: Welsh

This job application date has now expired.

Professorship (Temporary – One year agreement)

Professorship (Temporary – One year agreement)

Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James
Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James

Swydd Athro (Dros dro – Cytundeb blwyddyn)


32 ½ Oriau'r Wythnos
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Cytundeb: Dros dro - Blwyddyn
Dyddiad dechrau: Medi 01, 2023

Mae Ysgol Evan James yn ysgol cyfrwng Cymraeg yng nghanol tref Pontypridd. Mae gennym 300 o blant ar y gofrestr (40 rhan amser yn y Feithrin).
Mae Ysgol Evan James yn ysgol hapus, gynhwysol a chymunedol.

Mae’r llywodraethwyr, y staff a’r disgyblion yn awyddus i benodi athro dosbarth a fydd yn ymarferwr gwych yn yr ystafell ddosbarth, yn gweithio’n frwdfrydig o fewn tîm ac yn gosod y plentyn wrth galon popeth sy’n bwysig ym mywyd yr ysgol. Rydym yn chwilio am berson sy'n gallu cefnogi'r weledigaeth hon ac adeiladu ar y sylfeini cryfion a rhagorol sydd eisoes yn eu lle.

Prif gyfrifoldebau:

• Addysgu dosbarth Cam Cynnydd 1/2

Mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Ysgol Mrs Ceri Morgan am fwy o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol (01443 486813)

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd (12pm) ar ddydd Gwener, Mawrth 24ain.

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate. Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.