THE DETAILS:
  • Subject:
  • Hours: Part time
  • Contract: Temporary
  • Salary Type: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Language: Welsh

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu (Arbennig) Lefel 1 (Ysgol Cwm Banwy)

Cynorthwyydd Addysgu (Arbennig) Lefel 1 (Ysgol Cwm Banwy)

Powys County Council
Cynorthwyydd Addysgu (Arbennig) Lefel 1 (Ysgol Cwm Banwy)
Job description
Welsh language skills are essential

Penodi cynorthwy-ydd dysgu (Arbennig) Lefel 1, am gyfnod penodedig i ddechrau

28 awr 45 munud yr wythnos.

(Dydd Llun i dydd Gwener 8:45am- 3:30pm.)

Mae corff llywodraethol yr ysgol yn awyddus i benodi cynorthwy-ydd dosbarth (Arbennig) Lefel 1 sy'n ymroddedig iawn i ymuno â'n hysgol Eglwys newydd.

Rydym yn chwilio am gynorthwy-ydd sy'n hynod o weithgar a fydd yn sicrhau disgwyliadau uchel, yn gweithio'n galed, yn arddangos sgiliau pobl rhagorol a bydd ef/hi yn benderfynol o ddarparu'r profiadau dysgu gorau i bob plentyn o dan arweiniad y pennaeth a'r athrawon dosbarth. Bydd gofyn i'r cynorthwy-ydd oruchwylio o fewn dosbarth y dysgu sylfaen gan gynorthwyo i reoli'r amgylchedd dysgu gan roi ffocws ar gynnig mynediad llawn at y cwricwlwm.

Bydd gofyn i'r cynorthwy-ydd roi cefnogaeth arbenigol yn y dosbarth dysgu sylfaen.

Mae'r gallu i gyfathrebu a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol. (Lefel 3 neu uwch.)

Mae'r ysgol yn ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pawb. Mae'r swydd yn destun cyfeiriadau boddhaol, DBS manylach a phob cliriad perthnasol arall.

Dylid cyflwyno ffurflen gais ar-lein erbyn Tachwedd 30ain, 2023 (cyn 9pm).

Mae croeso i'r ymgeiswyr drafod y swydd efo'r Pennaeth, Miss Betsan Llwyd trwy e-bostio pennaeth@cwmbanwy.powys.sch.uk neu LlwydB10@hwbcymru.net Cyfweliadau: Rhagfyr 8fed,2023.

Dylid dychwelyd ffurflenni cais at: pennaeth@cwmbanwy.powys.sch.uk neu LlwydB10@hwbcymru.net