THE DETAILS:
  • Location: Swansea,
  • Salary Type: Not Supplied
  • Language: English

This job application date has now expired.

Ysgol Gymraeg Pontybrenin: Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol

Swansea Council
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel, cadarnhaol a chynhwysol lle mae pob plentyn yn cael eu hannog i gredu ynddynt eu hunain ac i fod y gorau y gallant fod. Rydym yn meithrin, grymuso ac ysbrydoli plant, yn gwerthfawrogi eu cyfraniadau, ac yn rhoi pob cyfle iddynt ddisgleirio. Rydym yn eu helpu i feithrin hyder, gwybodaeth a chariad at ddysgu.

Hoffai'r corff llywodraethu benodi Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol rhagorol, i gefnogi tîm ymroddedig a chyfeillgar o staff sydd am sicrhau'r gorau ar gyfer pob disgybl. Rydym yn chwilio am unigolyn ysbrydoledig a fydd yn arwain wrth gefnogi plant i ddatblygu'n gyfannol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
  • â phrofiad addysgu o leiaf 5 mlynedd;
  • yn angerddol am gefnogi plant ag ADY;
  • yn brofiadol ac wedi derbyn hyfforddiant wrth ysgrifennu Cynlluniau Datblygu Unigol, trosi datganiadau i CDU ac yn deall y prosesau atgyfeirio;
  • â phrofiad o addysgu a chefnogi dysgwyr sydd ag ystod eang o anghenion cymhleth a phenodol;
  • yn frwdfrydig, trefnus ac yn gallu gweithio i derfynau amser;
  • yn gallu ysgrifennu adroddiadau manwl i gefnogi athrawon i gynllunio ac arwain gweithgareddau ymgysylltu ar gyfer plant ag ADY fel y gallant wneud cynnydd rhagorol;
  • yn monitro a chynllunio'r ddarpariaeth a nodir yn CDU'r plant ac yn helpu i adolygu'r cynlluniau hyn yn ystod yr Adolygiadau sy'n Ganolog i'r Plentyn;
  • yn ymgysylltu â rhieni'n effeithiol ac yn meithrin perthynas ardderchog â phlant a'u teuluoedd;
  • â disgwyliadau uchel o bob plentyn;
  • yn cyflawni'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau fel y nodir yn y swydd-ddisgrifiad;
  • yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol;
  • yn gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm ar y cyd gyda'r Pennaeth, yr Uwch Dîm Rheoli, staff, disgyblion a llywodraethwyr;
  • yn barod i gyfrannu at fywyd ehangach cymuned yr ysgol.

Gallwn gynnig:
  • cyfle gwych i gael effaith gadarnhaol ar fywydau a phrofiadau dysgu'r plant yn ein gofal.
  • y cyfle i weithio fel rhan o dîm ymroddedig, cyfeillgar a chefnogol iawn.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.swansea.gov.uk/diogelucorfforaethol .

Am ffurflen gais a disgrifiad swydd, gofynnir i ymgeiswyr e-bostio: ScourfieldC4@Hwbcymru.net .

Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi eu cwblhau i'r ysgol drwy e-bost neu drwy'r post erbyn 12.00yh ar Ddydd Gwener, 24 Tachwedd 24.

This is an advert for a Welsh-medium Additional Learning Needs Co-ordinator at Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin.

Application form - school-based support staff (Word doc) [134KB]
YGG Pontybrenin - Cydlynydd ADY - Disgrifiad Swydd (PDF) [408KB]