THE DETAILS:
  • Hours: Part time
  • Contract: Fixed Term
  • Salary Type: Annual
  • Language: English
  • Closing Date: 05 December, 2023 12:00 AM

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Cymorth Dysgu Lefel 1 - Ysgol Gymunedol Maenclochog

Pembrokeshire County Council
Disgrifiad Swydd

Gradd 3 - £22,737 am 11.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig yn seiliedig ar 45.8 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £6, 072.06 pro rata

Tymor y Haf - 28.45 awr

Gradd 3 - £22,737 am 28.45 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig yn seiliedig ar 45.8 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £15,021.76 pro rata

Rydym yn edrych am unigolyn brwdfrydig iawn a gweithgar i weithio gyda plant Meithrin a Derbyn.

Rydym yn chwilio am rywun i weithio 11.15 awr yr wythnos (bob prynhawn 1yp – 3.15yp) gyda'r oriau yma yn cynyddu yn nhymor yr Haf i 28.45awr yr wythnos. Disgwylir bod yr ymgeiswyr yn rhugl yn y Gymraeg.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd sydd yn llwyddiannus weithio gydag athrawes ddosbarth gan ddilyn cyfarwyddiadau ac amserlen yr athrawes ddosbarth. Bydd disgwyl i'r unigolyn ymgymryd a dyletswyddau cinio a chlybiau ar ol Ysgol ar adegau.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein neu os oes arnoch angen cymorth drwy anfon e-bost at recruit@pembrokeshire.gov.uk.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.