THE DETAILS:
  • Hours: Part time
  • Contract: Temporary
  • Salary Type: Annual
  • Language: English

This job application date has now expired.

Administration & Organisation Level 3

Neath Port Talbot Council
Teitl Swydd Swyddog Gweinyddol a Threfniadaeth Lefel 3

Math o Gontract: Parhaol

18 awr yr wythnos/39 wythnos y flwyddyn (Amser Tymor) gyda phosibilrwydd o oriau yn cynyddu'n raddol.

YGG Cwmnedd, Stryd Newydd, Glynnedd, Castell Nedd, SA11 5AG

Dyddiad cychwyn: Medi 2024

Oherwydd lleihau oriau, mae Corff Llywodraethol YGG Cwmnedd am benodi person brwdfrydig a threfnus ar gyfer swyddfa'r ysgol. Wrth i'r clerc bresennol lleihau ei horiau, bydd cyfle ychwanegu oriau. Rydym yn chwilio am rywun sy'n llawn cymhelliant gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy'n gallu dangos sgiliau gweinyddol a TGCh datblygedig. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael y gallu i weithio'n annibynnol ac i ddelio â phwysau gwaith.

Bydd angen sgiliau cymdeithasol a chroesawgar rhagorol ar yr ymgeisydd llwyddiannus, gan mae nhw fydd y pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un sy'n cysylltu â'r ysgol neu'n ymweld â hi. Byddai profiad blaenorol o swyddfa/swyddfa ysgol o fantais ond nid yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae ein hysgolion/gweithwyr yr un mor ymrwymedig i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad pob plentyn a pherson ifanc a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu lles. Bydd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon yn cael ei hategu gan asesiad recriwtio mwy diogel trwyadl i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol.

Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Mrs Christine Evans ar (01639) 720530 neu e-bostiwch yggcwmnedd@npt.school

Gallwch wneud cais ar-lein, lawr lwytho pecyn cais neu gysylltu â'r Tîm Cymorth Cyflogaeth AD drwy e-bost yn jobs@npt.gov.uk neu drwy ffonio (01639) 686837 gan ddyfynnu teitl y swydd a'r rhif cyfeirnod.

Dyddiad cau: Dydd Iau Mawrth 21ain 2024.