THE DETAILS:
  • Hours: Part time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annual
  • Language: Welsh

This job application date has now expired.

Pennaeth (YGG Aberycnon)

Rhondda Cynon Taf
Pennaeth (YGG Aberycnon)

YGG Aberycnon

PENNAETH

Cyflog: £69,598 – £80,497 (16-22)

Dyddiad dechrau: Medi 2024

Nifer ar y Gofrestr: 273 gan gynnwys Meithrin

Mae Corff Llywodraethu YGG Abercynon yn awyddus i benodi Pennaeth ysbrydoledig a blaengar er mwyn helpu'r Corff Llywodraethu i symud yr ysgol yn ei blaen.

Rydyn ni'n falch o'r amgylchedd meithringar, croesawgar a chyfeillgar rydyn ni wedi'i greu, ac rydyn ni'n awyddus i sicrhau ymdeimlad o gymuned wrth i ni dyfu. Mae staff yr Ysgol yn dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad drwy gydweithio'n dda, sy'n arwain at ganlyniadau da a phrofiad cadarnhaol a dymunol ar gyfer ein disgyblion.

Rydyn ni'n chwilio am Bennaeth sy'n:

- Ymroi i ragoriaeth mewn addysg;

- Meddyliwr strategol â gweledigaeth glir ar gyfer llwyddiant parhaus sy'n cydweithio'n agos ac yn effeithiol â chorff llywodraethu'r ysgol;

- Gweithiwr proffesiynol gyda phrofiad o fedrau arwain, rheoli a rhyngbersonol;

- Arweinydd sy'n ysbrydoli, yn cymell ac yn grymuso pobl eraill;

- Rhywun sydd yn anelu at safonau a disgwyliadau uchel gan sicrhau bod pob plentyn yn derbyn yr addysg orau;

- Cyfathrebwr ardderchog a fydd yn ysbrydoli plant, rhieni a staff fel ei gilydd;

- Barod i ymrwymo i feithrin cydberthnasau sy'n bodoli eisoes gyda'n teuluoedd a'r gymuned ehangach ymhellach;

- Barod i ymrwymo'n gryf i weithio mewn partneriaeth â staff, llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach.

Mae gennym ni:-

- Athrawon a charfan cymorth hynod broffesiynol, dawnus, arloesol a hapus sy'n ymroi i gynnydd a dilyniant er mwyn parhau i ddatblygu'r ysgol;

- Corff llywodraethu ymroddgar a chefnogol, sy'n ymroi i weithio mewn partneriaeth i gyflawni'r gorau ar gyfer ein holl blant.

Dyma gyfle cyffrous i'r person cywir i arwain ein hysgol i'r cam nesaf yn ei datblygiad.

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach ar y wefan

Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynghylch y broses ymgeisio, ffoniwch Joanna Croad, ar y rhif ffôn canlynol: (01443) 444549 neu anfonwch e-bost at Joanna.Croad@rctcbc.gov.uk.

Dyddiad cau'r swydd yma yw 23 Chwefror 2024.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.