THE DETAILS:
  • Location: St Asaph, Denbighshire, LL17 0RP
  • Subject: Headteacher
  • Hours: Full Time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annually
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 08 April, 2024 11:59 AM

This job application date has now expired.

Pennaeth Ysgol Glan Clwyd

Ysgol Glan Clwyd
Diben y swydd:
Darparu gweledigaeth, arweiniad a chyfeiriad ar gyfer
ysgol. Gyda chymorth y corff llywodraethol, byddwch
yn creu a chynnal amgylchedd dysgu cynhyrchiol sy’n
ymgysylltu â’r holl ddisgyblion ac yn foddhaol iddynt
ac yn magu gwelliant parhaus yn safon yr addysg.
Yn atebol i’r:
Corff Llywodraethol
Yn gyfrifol am:
Safonau, holl staff ac adnoddau
Disgwylir i’r holl staff ddilyn a gweithio o fewn
ffiniau’r fframwaith Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol,
a’r Safonau Proffesiynol Addysgu ac Arweinyddiaeth.
Penaethiaid: Prif Ofynion
Rhaid i ddyletswyddau proffesiynol pennaeth gael eu
cyflawni yn unol â’r canlynol ac yn ddarostyngedig i’r
canlynol:
• Darpariaethau pob deddfwriaeth gymwys ac unrhyw
orchmynion a rheoliadau sy’n weithredol o dan y
ddeddfwriaeth gymwys ac yn benodol Deddf Addysg
1996(17) a’r Ddeddf;
• Offeryn llywodraethu ysgol y pennaeth;
• Unrhyw reolau, rheoliadau neu bolisïau a wneir
gan y corff llywodraethol ynghylch materion y mae’n
gyfrifol amdanynt, gan yr awdurdod mewn perthynas
â materion nad yw’r corff llywodraethol yn gyfrifol
amdanynt neu gan gyflogwyr y pennaeth;
• Pan fydd yr ysgol yn ysgol wirfoddol, yn ysgol
sefydledig neu’n ysgol arbennig sefydledig, unrhyw
ddogfen ymddiriedaeth sy’n gymwys i’r ysgol;
• Unrhyw gynllun sy’n cael ei baratoi neu ei gynnal
gan yr awdurdod o dan adran 48 o Ddeddf Safonau a
Fframwaith Ysgolion 1998(18);
• Telerau eu penodiad.
JOB REQUIREMENTS
Please see Vacancy Information Pack