THE DETAILS:
  • Location: Swansea,
  • Salary Type: Not Supplied
  • Language: English
  • Closing Date: 08 April, 2024 12:00 AM

This job application date has now expired.

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe: Athro Mathemateg/Gwyddonieth

Swansea Council
Rydym yn chwilio am athro ysbrydoledig ac uchelgeisiol i ymuno ag adran lwyddiannus. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus i addysgu Mathemateg a Gwyddoniaeth ar draws CA 3+4, gyda chyfle i ymgeisydd â'r profiad addas i gyfrannau at gyrsiau Safon Uwch.

Gyda datblygiadau cyffrous iawn ym myd addysg, â'r ffocws ar ddatblygu medrau rhifedd a meddwl dwfn disgyblion, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus â'r cyfle i gyfrannu'n helaeth at ddatblygu rhifedd ein disgyblion, yn uniongyrchol a thrwy gefnogi athrawon eraill ar draws yr Ysgol.

Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau'r ysgol yn ogystal â sicrhau'r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.

Rydym yn gallu cynnig:
  • y cyfle i weithio gyda disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar
  • y cyfle i weithio o fewn y Adrannau Mathemateg a Gwyddoniaeth sydd yn ymrwymedig i gydweithio'n agos er mwyn sicrhau llwyddiant pob disgybl o bob gallu.
  • y cyfle i weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion.
  • datblygiad gyrfa bellach o fewn y ddwy Adran a'r ysgol.

Dylid cyflwyno ffurflen a llythyr cais i reolwraig busnes yr ysgol, Mrs Eirian Leonard. Am unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r swydd, cysylltwch gyda Mrs Leonard ar: 01792 560605; neu drwy e-bost: LeonardE18@hwbcymru.net

Dyddiad cau: Dydd Llun 8fed o Ebrill 2024 am 12:00y.h.

Bydd angen dychwelyd y ffurflen gais drwy e-bost yn uniongyrchol at Mrs Eirian Leonard, Rheolwraig Busnes yr ysgol erbyn y dyddiad cau uchod.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.swansea.gov.uk/diogelucorfforaethol

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc) [120KB]