THE DETAILS:
  • Location: Caerphilly,
  • Subject:
  • Hours: Full time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Language: Welsh

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Dosbarth - Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell

Athro/Athrawes Dosbarth - Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell

Caerphilly County Borough Council
Athro/Athrawes Dosbarth - Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell
Job description
YSGOL GYNRADD GYMRAEG Y CASTELL

2 x Athro / Athrawes

Prif raddfa

Un swydd contract blwyddyn, llawn amser o Fedi 2024 (dosbarth)

Un swydd contract blwyddyn, llawn amser o Fedi 2024 (dysgu ar draws yr ysgol)

Dymuna'r Corff Llywodraethol apwyntio athrawon dosbarth brwdfrydig a chydwybodol sydd â'r gallu i ddysgu ar draws y cyfnod cynradd.

Rydym yn ysgol gynradd hapus a chartrefol sy'n ymroddedig i ddarparu addysg o ansawdd uchel i'n disgyblion. Gydag ymrwymiad i ragoriaeth academaidd a datblygiad cyfannol, ein nod yw ysbrydoli a grymuso ein disgyblion i gyrraedd eu llawn botensial. Mae ein cymuned yn bwysig i ni a gofalwn am les bawb gan sicrhau bod ein gweithredoedd yn cyd-fynd â'n cred bod gan bawb yr hawl i fod yn hapus.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus:

  • fod yn hollol gymwys yn y Gymraeg;
  • fod yn gynnes, yn ofalgar ac yn gallu sicrhau cyfleoedd pleserus a hwylus i'r dysgwyr;
  • osod disgwyliadau uchel i'r dysgwyr o ran ymddygiad, cyflawniadau a datblygiad sgiliau;
  • addysgu i'r safon uchaf posibl i gwrdd ag anghenion ein holl ddysgwyr;
  • weithio'n effeithiol fel aelod o dîm ein hysgol;
  • arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o'r cwricwlwm newydd;
  • yn dangos safonau uchel wrth ddefnyddio TGCh
  • sefydlu a chynnal perthynas gadarnhaol gyda'n rhieni a gofalwyr, aelodau o'n Corff Llywodraethol a'n gymuned ehangach;
  • gefnogi holl weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol yr ysgol.

Cynigir gyfle i'r ymgeiswyr ar y rhestr fer ymweld â'r ysgol. Hoffai Mr G. Hughes arsylwi gwers gan yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y cyfweliadau.

Ffurflenni cais ar gael i'w lawrlwytho o wefan Eteach neu ar gais trwy'r ysgol

Dylid eu dychwelyd at:

Mr G Hughes, Pennaeth, Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell, Heol Cilgant, Caerffili, CF83 1WH

Dyddiad cau: 25.04.24

Dyddiad rhestr fer: 29.04.24

Dyddiad arsylwad: Wythnos yn dechrau 06.05.24

Dyddiad cyfweliad: Wythnos yn dechrau 13.05.24

I weld y disgrifiad swydd cliciwch ar y ddogfen atodedig.

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Gareth Hughes ar 02920 864790.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â'r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.

O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i'r holl staff Cymorth Dysgu (sy'n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016.

Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o'ch cofrestriad a'ch cofrestriad parhaol, fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar y wefan hon https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/ neu drwy ffonio 02920 460099. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.