THE DETAILS:
  • Location: New Tredegar,
  • Hours: Full time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annual
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 15 April, 2024 12:00 AM

This job application date has now expired.

Swydd Athro/Athrawes

Caerphilly County Borough Council
Swydd Athro/Athrawes
Job description
Yn eisiau erbyn 1af o Fedi 2024

Athro / Athrawes Llawn Amser

Nifer disgyblion ar y gofrestr: 190

Prif Raddfa Cyflog

Hyd y Cytundeb: 1 swydd llawn amser - cytundeb blwyddyn.

Sefydlwyd Ysgol y Lawnt yn 1955 ac fe'i lleolir ym mhentref Rhymni yn sir Caerffili. Mae'n ysgol hapus, gynhwysol a chymunedol ac ymfalchïwn yn y berthynas agos sydd gennym gyda'n rhieni a'r gymuned leol.

Mae Ysgol y Lawnt yn gartref i gymuned ddatblygol o staff addysgu lle byddwch yn cael pob cefnogaeth i ddatblygu yn eich gyrfa. Byddwch yn ymuno a thîm o staff ymroddgar, brwdfrydig ac egnïol, sy'n cydweithio'n agos i sicrhau cyfleoedd cyfrwng Cymraeg cyfoethog i'n disgyblion mewn amrywiaeth eang o ffyrdd.

Gwahoddir ceisiadau gan athrawon brwdfrydig ac ymroddgar i ddysgu yn yr ysgol lewyrchus hon. Mi fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus:

  • Yn hollol gymwys yn y Gymraeg
  • yn athro/awes llawn cymhelliant sy'n gosod disgwyliadau uchel a heriol o ran cyflawniad, ymddygiad a datblygiad sgiliau
  • yn gallu defnyddio strategaethau asesu effeithiol er mwyn gwella'r dysgu
  • yn athro/awes sydd yn gynnes, yn ofalgar ac sy'n gwneud dysgu ein plant yn bleserus ac hwylus
  • yn defnyddio TGCh yn effeithiol i wella'r dysgu ac addysgu
  • yn gallu gweithio'n effeithiol fel aelod o dîm Ysgol cydwybodol a chryf
  • yn sefydlu a chynnal perthynas gadarnhaol gyda rhieni a gofalwyr, aelodau o'r Corff Llywodraethol a'r gymuned ehangach
  • yn cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau allgyrsiol

Cynigir cyfle i'r ymgeiswyr ar y rhestr fer ymweld â'r ysgol. Hoffai'r Pennaeth arsylwi gwers/rhan o wers gan yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y cyfweliadau.

Ffurflenni cais ar gael i'w lawrlwytho o wefan Eteach neu ar gais trwy'r ysgol

Dylid eu dychwelyd at y Pennaeth:

Mrs Sharon Davies,

Ysgol y Lawnt,

Surgery Hill,

Rhymni

Tredegar

Caerffili,

NP22 5LS

Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon neu os am sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth - 01685 840285 neu ebostiwch Ysgolylawnt@sch.caerphilly.gov.uk

Dyddiad cau: 08.04.2024

Dyddiad cyfweliad: Wythnos yn dechrau - 15.04.2024

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person dewiswch yr atodiad perthnasol o'r rhestr atodiadau.

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Sharon Davies ar 01685 840285.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â'r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.