THE DETAILS:
  • Location: Schools,
  • Subject:
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annual
  • Salary Range: £65,000.00 - £70,000.00
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 07 May, 2024 12:00 AM

This job application date has now expired.

Deputy Headteacher- Ysgol Y Creuddyn

Deputy Headteacher- Ysgol Y Creuddyn

Conwy County Borough Council
Ysgol Uwchradd Benodedig Gymraeg 11-18 oed 673 o ddysgwyr (89 o ddysgwyr 6ed dosbarth)

Yn eisiau erbyn Medi 2024:

DIRPRWY BENNAETH

Mae'r ysgol yn chwilio am unigolyn blaengar, uchelgeisiol, angerddol, proffesiynol a gweithgar sy'n meddu ar sgiliau rhyngbersonol ardderchog ac yn ymroddedig i gynnig yr addysg orau i'r disgyblion, a hynny drwy'r Gymraeg. Edrychwn ymlaen at groesawu Dirprwy newydd i gyfoethogi profiadau dysgu pobl ifanc Conwy.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus:

  • ymrwymo i hybu'r iaith Gymraeg fel cyfrwng ac ethos Cymreig/Gymraeg yr ysgol;
  • barhau i feithrin ysgol ofalgar lle mae pob unigolyn yn cael ei werthfawrogi;
  • ddarparu gweledigaeth glir ar gyfer dysgwyr yn y Gymru fodern;
  • ymrwymo i'r safonau uchaf ym mhob agwedd o waith yr ysgol;
  • fod â phrofiad fel uwch arweinydd llwyddiannus mewn ysgol;
  • fod â'r gallu i feddwl yn strategol, yn greadigol ac yn arloesol;
  • feddu ar sgiliau rhyngbersonol ardderchog a'r gallu i gyfathrebu gyda llywodraethwyr, staff, rhieni, disgyblion a'r gymuned yn ehangach.

Am wybodaeth bellach, neu i ymweld â'r ysgol i brofi'r naws ac ethos deuluol a gofalgar, cysylltwch â Miss Sophie Price ar swyddfa@creuddyn.conwy.sch.uk neu 01492 544 344

Dyddiad cau: Hanner nos, dydd Mawrth 07/05/2024

Dyddiadau'r Cyfweliadau: Yr wythnos yn dechrau 13/05/2024

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.