THE DETAILS:
  • Subject:
  • Hours: Full time
  • Contract: Fixed Term
  • Salary Type: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Language: English
  • Closing Date: 02 May, 2024 12:00 AM

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Cam Cynnydd 3 (Blwyddyn 4) - Ysgol Caer Elen (Cyfnod Mamolaeth)

Athro/Athrawes Cam Cynnydd 3 (Blwyddyn 4) - Ysgol Caer Elen (Cyfnod Mamolaeth)

Pembrokeshire County Council
Disgrifiad Swydd

Yn eisiau erbyn 1af Medi 2024

Dymuna Corff Llywodraethol Ysgol Caer Elen penodi addysgwr talentog a brwdfrydig i ymgymryd â'r swydd uchod i ddechrau ym mis Medi 2024. Mae hwn yn gyfle i unigolyn sy'n chwilio am her i fod yn rhan o dîm uchelgeisiol sydd â gweledigaeth i ddarparu addysg o'r radd flaenaf i ddisgyblion yr ysgol ac i ddatblygu addysg Gymraeg yn Ne a Gorllewin Sir Benfro. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu yng Ngham Cynnydd 3, ym Mlwyddyn 4. Cytundeb dros dro ar gyfer cyfnod mamolaeth yw hwn.

Ysgol pob oed 3-16 cyntaf cyfrwng Cymraeg Sir Benfro yw Ysgol Caer Elen sydd yn cynnig cyfleusterau rhagorol. Mae ein haddysgeg a'r ethos dysgu holistaidd yn galluogi ein disgyblion i gyfranogi a datblygu mewn amgylchedd ysgogol, hapus a diogel.

Chwiliwn am unigolyn a fydd yn hollol ymrwymedig i gyflwyno egwyddorion Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus gan gynnig profiadau addysgiadol arloesol i'r disgyblion. Pennir dyletswyddau a chyfrifoldebau yn unol â'r disgrifiad swydd.

Manylion pellach yngl ŷ n â'r swydd uchod oddi wrth y Pennaeth Gweithredol, Mr Dafydd Hughes, trwy ffonio 01437 808470 neu e-bostio cynradd@ysgolcaerelen.cymru ac yna ceisiadau drwy gwblhau'r ffurflen gais ar wefan CSP gan gynnwys enwau dau ganolwr erbyn dydd Iau, Mai 2ail 2024.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein neu os oes arnoch angen cymorth drwy anfon e-bost at recruit@pembrokeshire.gov.uk .
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.