THE DETAILS:
- Subject:
- Hours: Full time
- Contract:
- Salary Type: Annual
- Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
- Language: English
- Closing Date: 13 May, 2024 12:00 AM
This job application date has now expired.
Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch - Ysgol Caer Elen
Pembrokeshire County Council
Disgrifiad Swydd
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gymraeg Pob Oed Caer Elen, Hwlffordd yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chymwys i ymgymryd â'r swydd hon. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gyfrifol am gefnogi staff addysgu a chymryd cyfrifoldeb am ddarparu gweithgareddau dysgu yn unol â'r hyn a gytunir ynglŷn â chyflenwi a chynlluniau CPA yr ysgol. Edrychwn am unigolyn egnïol a dawnus a fydd yn barod i gyfrannu'n llawn at safonau academaidd a bywyd allgyrsiol yr ysgol. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar y gwaith o fis Medi 2024 ymlaen.
Ysgol Pob Oed 3-16 yn nhref hanesyddol Hwlffordd yw Ysgol Caer Elen sydd yn cynnig cyfleusterau rhagorol. Mae ein haddysgeg a'r ethos dysgu holistaidd yn galluogi ein disgyblion i gyfranogi a datblygu mewn amgylchedd ysgogol, hapus a diogel.
Os hoffech drafod cynnwys y swydd hon ymhellach, yna cysylltwch â'r Pennaeth Gweithredol, Mr Dafydd Hughes trwy e-bost ar dhughes@ysgolcaerelen.cymru neu trwy ffonio 01437 808470.
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd yw dydd Mercher, Ebrill 24ain 2024.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
• Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein neu os oes arnoch angen cymorth drwy anfon e-bost at recruit@pembrokeshire.gov.uk.
• Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.