THE DETAILS:
  • Location: St Asaph, Denbighshire, LL17 0RP
  • Subject: Deputy Headteacher
  • Hours: Full Time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annually
  • Salary Range: £72,985 - £80,497
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 15 May, 2024 11:59 PM

This job application date has now expired.

Deputy Headteacher

Deputy Headteacher

Ysgol Glan Clwyd
Rydym yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth
blaengar sy’n arweinydd ysbrydoledig a chadarn
a fydd yn gweithredu’n broffesiynol i sicrhau
llwyddiant yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus
yn cyfrannu’n strategol i gyflawni gweledigaeth fydd
yn meithrin Cymry blaengar y dyfodol. Disgwylir i’r
ymgeisydd fod yn hynod gymwys ym mhob un o’r
safonau cenedlaethol i athrawon ac yn hyfedr wrth
drosglwyddo’r sgiliau hyn i gynllunio’n strategol er
mwyn sicrhau ffyniant ein disgyblion yn ogystal â
dysgu proffesiynol ein staff. Bydd bod yn addysgwr
rhagorol yn hanfodol er mwyn galluogi deilydd y swydd
i arfarnu safonau addysgu a dysgu a chynllunio ar
gyfer gwelliant. Mae’r gallu i ysbrydoli staff a chynnig
arweiniad mesuredig a chynhaliol yn flaenoriaeth.
JOB REQUIREMENTS
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
• Flaenoriaeth i hyrwyddo cyflawniad, cynnydd a
llesiant disgyblion yn barhaus
• Ymrwymiad gadarn at addysg cyfrwng Cymraeg
a phwysigrwydd hynny o fewn y cyd-destun lleol a
chenedlaethol
• Y gallu i gynorthwyo’r Pennaeth i gynnig
arweinyddiaeth fydd yn hyrwyddo addysgu a dysgu
rhagorol a gosod gwreiddiau moesol a dilwylliannol
gadarnhaol i’n disgyblion
• Sgiliau cydweithio campus gyda holl randdeiliaid yr
ysgol er mwyn hyrwyddo’r safonau uchaf
• Y gallu i arwain gwelliant drwy fonitro’n effeithiol ar
gyrhaeddiad a chyflawniad disgyblion
• Afael gadarn ar brosesau asesu ar draws y continiwm
oedran ac o fewn y cymwysterau a gynigir
• Wybodaeth ddofn am egwyddorion asesu cynnydd y
Cwricwlwm ac yn hyderus wrth drosglwyddo’r rhain
yn brosesau ysgol gyfan
• Weledigaeth glir o’r hyn yw bwriad Cwricwlwm
Cynhwysol a’r modd y mae gwireddu hynny fel ysgol
a thrwy gydweithio gyda sefydliadau addysgol eraill
• Gaffael arbennig ar sgiliau cymell a mentora er mwyn
cefnogi staff i gyflawni eu gwaith ar y lefel uchaf.
• Hyder i gefnogi, ysbrydoli, herio a datblygu staff er
mwyn sicrhau gwelliant parhaus a boddhad staff yn
eu gwaith o ddydd i ddydd
• Drefnusrwydd effeithiol wrth ymdrin â chyllid, dyranu
adnoddau a sicrhau effeithlonrwydd staff.
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol er mwyn trosglwyddo gweledigaeth yr ysgol i'n holl randdeiliaid.