THE DETAILS:
  • Subject:
  • Hours: Part time
  • Contract: Temporary
  • Salary Type: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 13 May, 2024 12:00 AM

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Gymraeg Y Trallwng)

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Gymraeg Y Trallwng)

Powys County Council
Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Gymraeg Y Trallwng)
Job description
Welsh language skills are essential

Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol

Angen ar gyfer Medi, 2024

Mae llywodraethwyr Ysgol Gymraeg y Trallwng yn awyddus i benodi Cynorthwy-ydd Addysgeg ysbrydoledig, brwdfrydig ac ymroddedig ar gyfer yr ysgol flaengar a chynhwysol hon.

Swydd cynorthwy-ydd addysgu - cyfnod penodol tan Orffennaf, 2025 (27 awr yr wythnos)

Ysgol Gymraeg Y Trallwng, ysgol gynradd sy'n ysgogi a chefnogi pawb sy'n ynghlwm â'r ysgol mewn modd creadigol, torfol a byrlymus. Mae'r ysgol yn cynnig profiadau newydd, gwerthfawr ac unigryw sy'n sicrhau profiadau dysgu arloesol a difyr. Mae'r staff yn gofalu'n gydwybodol a theyrngar am eu disgyblion ac mae'r disgyblion yn teimlo'n ddiogel ym mhob achos. Mae'r ysgol yn canolbwyntio ar ysgogi pob disgybl i fod yn fedrus a deallus, yn ogystal â datblygu'r staff yn broffesiynol. Mae ffocws angerddol ar yr iaith a'r ymdeimlad o berthyn wrth hybu a ffynnu'r Iaith Gymraeg yn y Trallwng. Yn dilyn adroddiad Estyn llwyddiannus ac adeilad newydd anghredadwy, mae dyfodol disglair iawn o'n blaenau.

Bydd ein cynorthwy-ydd newydd yn uchelgeisiol ac yn meddu ar ddisgwyliadau uchel, yn ffynnu ar her, yn gweithio'n galed, yn arddangos sgiliau pobl rhagorol a bydd ef/hi yn benderfynol o ddarparu'r profiadau dysgu gorau i bob plentyn.

Mae'r gallu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.

Mae'r ysgol yn ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pawb. Mae'r swydd yn destun cyfeiriadau boddhaol, DBS manylach a phob cliriad perthnasol arall.

Dylid cyflwyno cais erbyn 13eg o Fai, 2024 (Canol dydd)

Dyddiad Cau: 13eg o Fai, 2024 (Canol dydd)

Rhestr Fer: 14eg o Fai, 2024

Cyfweliadau: 20fed o Fai, 2024

'Does neb yn berffaith, mae pawb yn wahanol. Mae'r ffordd yn un droellog i bawb'

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS