THE DETAILS:
  • Location: Various,
  • Subject:
  • Contract: Temporary
  • Salary Type: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 13 May, 2024 12:00 AM

This job application date has now expired.

Senior Inclusion Teacher Gwynedd and Anglesey

Senior Inclusion Teacher Gwynedd and Anglesey

Gwynedd Council
Details
Job Advertisement

Temporary Senior Inclusion Teacher Gwynedd and Anglesey

This is an advertisement for a Temporary Senior Inclusion Teacher Gwynedd and Anglesey, for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential. Please refer to the Welsh version for more information.

The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start in the role

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Person Specification

..

Job Description

.

Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwangol a Chynwsiad (ADYaCH)

Ysgolion a Chanolfannau Arbenigol Gwynedd ac Ynys Môn

Pwrpas y Swydd.

  • Sicrhau bod pobl Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
  • Sicrhau fod yr Awdurdod yn cyflawni gofynion statudol parthed sicrhau Addysg a Lles plant
  • Sicrhau gwasanaeth arbenigol o safon uchel ar gyfer ysgolion a Chanolfannau arbenigol i gefnogi disgyblion ystod oedran 13-16 sydd â anawsterau ymddygiadol / emosiynol.
  • Sicrhau fod darpariaeth Addysg i ddisgyblion sydd â anawsterau ymddygiadol / emosiynol mewn achosion o waharddiadau ayb
  • Sicrhau ansawdd a chysondeb yn y maes cynnal ymddygiad a chynhwysiad drwy'r defnydd o weithdrefnau a phrosesau effeithiol ar sail tystiolaeth.
  • Sicrhau bod gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd y gwasanaeth yn cael ei eu harddel ac yn ganolog yn niwylliant y gwasanaeth.

Byddent yn cyflawni hyn drwy:
  • Dysgu a gweithredu strategaethau cytunedig o fewn safleoedd
  • Treulio cyfnodau ar lawr dosbarth yn arsylwi, modelu a monitro
  • Sicrhau ansawdd a chyfrannu i / at gynllunio ar gyfer gwella'r ddarpariaeth yn unol â gweithdrefnau'r gwasanaeth
  • Cefnogi ysgolion drwy ddarparu ar ffurf hyfforddiant ac adnoddau parod.
  • Arwain darpariaeth/ tîm ymddygiad a chanolfannau cynhwysiad yn effeithiol gan ymgymryd â dyletswyddau proffesiynol a ddirprwyir.


Cyfrifoldeb am Adnoddau.. e.e. staff, cyllid, offer

Rheolwr Llinell dydd i ddydd
  • Hybiau Cynhwysiad
  • Swyddogion Cynhwysiad
  • Cofrestr AHY ( Addysg Heblaw Ysgol)
  • Darpariaeth disgyblion bl9
  • Plant sydd allan o Addysg
  • Plant sydd yn methu allan ar Addysg
  • Rhaglen Hyfforddiant Gwasanaeth Cynhwysiad.


Prif Ddyletswyddau.

Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol a darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amred dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y dogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.

  • Sicrhau gwasanaeth cefnogi a chynghori ar gyfer ysgolion a sefydliadau addysgol eraill drwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth o ansawdd uchel.
  • Cyfrannu at gynlluniau strategol ysgolion unigol ym maes ymddygiad, cynhwysiant ac ADY yn gyffredinol
  • Treulio cyfnodau ar lawr dosbarth a thu allan i ysgolion yn arsylwi, modelu a monitro
  • Cefnogi ysgolion ar ffurf hyfforddiant ac adnoddau parod
  • Sicrhau arweiniad a chefnogaeth i Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Athrawon a Phenaethiaid yn y maes cynnal ymddygiad a chynhwysiad.
  • Sicrhau arweiniad a chefnogaeth i'r tîm Addysg Dewisol Gartref
  • Sicrhau prosbectws o gyfleon/darpariaethau i ddisgyblion sydd yn derbyn eu haddysg oddi ar brif safle ysgol ac monitro ansawdd y ddarpariaeth.
  • Paratoi a chyflwyno arweiniad cwricwlaidd - pynciau craidd, cwricwlwm ehangach ynghyd â chwricwlwm therapiwtig i unigolion neu grwpiau sydd yn derbyn darpariaeth hybiau
  • Sicrhau fod disgyblion yr hybiau yn ymgysylltu â'r gwaith ac yn gwneud cynnydd tuag at gwblhau cyrsiau achrededig
  • Cyflenwi gwaith proffesiynol drwy gymryd cyfrifoldeb ymgynghorol am gynllunio strategaethau a gweithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol; yn enwedig anhwylderau ymddygiadol ag emosiynol.
  • Cyfrannu at fonitro cynnydd disgyblion AHY (Addysg Heblaw Ysgol) drwy asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau yn unol â gweithdrefnau'r gwasanaeth.
  • Cydweithio gydag ysgolion ar gyfer datblygu'r arbenigedd cynnal ymddygiad o fewn yr ysgol.
  • Cyfrifoldeb am hunan reoli llwyth gwaith a blaenoriaethu achosion
  • Cynhyrchu pecynnau gwaith penodol, i sicrhau adnoddau arbenigol ar gyfer ysgolion a rhieni yn y maes anghenion ymddygiad ag emosiynol.
  • Datblygu a chydgordio rhaglen hyfforddiant penodol arbenigol i gynorthwyo ysgolion a rhieni i gael gwell dealltwriaeth o anghenion ymddygiad ag emosiynol.
  • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad yn unol â blaenoriaethau'r gwasanaeth.
  • Llunio amserlen a rhaglenni gwaith disgyblion AHY yn ôl yr angen
  • Llunio agenda cyfarfodydd tîm perthnasol a chadw cofnodion
  • Sicrhau arweiniad clir i'r Swyddogion Cynhwysiad.
  • Cyfrannu i HMS a datblygiadau staff o fewn y gwasanaeth ac o fewn ein hysgolion.
  • Cydweithio efo Uwch Seicolegydd a'r Rheolwr Gwasanaeth Gynhwysol mewn perthynas a threfnu cynlluniau datblygu tîm ymddygiad
  • Cyd ddatblygu rhaglen hyfforddiant penodol yn y maes cynhwysiad.
  • Adrodd ar gynnydd disgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth y gwasanaeth Cynhwysiad
  • .Cyd gordio gwaith y swyddogion cynhwysiad gan sicrhau gweithrediad rhanddeiliaid perthnasol.
  • Arfarnu ansawdd yr addysgu ac yr arweiniad a gyflwynir yn yr hybiau
  • Cydweithio'n agos gyda Swyddogion Ansawdd ADY a Chynhwysiad y Gwasanaeth i sicrhau map darpariaeth pwrpasol, effeithiol a hyblyg i ymateb i anghenion dysgwyr sydd ag anawsterau ymddygiadol emosiynol yn ysgolion yr Awdurdod Addysg Lleol.
  • Cyfrannu tuag at adrodd yn chwarterol ar gynnydd yn erbyn targedau a osodwyd yn y cynllun busnes.
  • Trefnu a gweithredu profion ac asesiadau yn ôl y gofyn.
  • Cyfrannu mewn cyfarfodydd tîm rheoli'r gwasanaeth.
  • Cynnal cyswllt agos efo gweithwyr cyffelyb o fewn y sector addysg, gwasanaethau cymdeithasol a iechyd
  • Gweithredu yn unol â chanllawiau diogelu cadarn
  • Gweithredu'r Còd Ymarfer Anghenion Ychwanegol o ran cefnogi disgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol emosiynol
  • Mynychu cyfarfodydd rhanbarthol a chenedlaethol ar gais Rheolwr Cynhwysiad.

Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
  • Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
  • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
  • Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
  • Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin