THE DETAILS:
  • Location: Rhondda Cynon Taf,
  • Subject:
  • Hours: Full time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annual
  • Salary Range: £50,000.00 - £55,000.00
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 17 May, 2024 12:00 AM

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth YGG Evan James

Dirprwy Bennaeth YGG Evan James

Rhondda Cynon Taf
Dirprwy Bennaeth YGG Evan James

Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James

DIRPRWY BENNAETH

Cyflog: L06 £54,316 – L10 £59,990

Dyddiad dechrau: 1 Medi 2024

Nifer ar y Gofrestr: 298

Ydych chi'n chwilio am her gyffrous, ac yn awyddus i gael cyfle i wneud gwahaniaeth fel Dirprwy Bennaeth?

Mae'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu yn ceisio penodi Dirprwy Bennaeth ysbrydoledig a deinamig i weithio yn rhan o garfan hynod frwdfrydig a phrofiadol, gan symud yr ysgol ymlaen yng ngham nesaf ei datblygiad.

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James yn ysgol dda iawn sy'n ymdrechu am ragoriaeth yn barhaus. Dyma gyfle delfrydol i rywun sy'n edrych i ddatblygu ei yrfa/gyrfa a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol fel Dirprwy Bennaeth.

Mae'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu am benodi Dirprwy Bennaeth brwdfrydig sydd ag angerdd am wella ysgolion ac arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth. Rydyn ni'n chwilio am:

· Unigolyn sy'n meddwl yn strategol a sydd â phrofiad o roi sgiliau arwain, rheoli a rhyngbersonol ar waith yn llwyddiannus

· Ymrwymiad i weithio mewn carfan a phartneriaethau

· Ymroddiad i ragoriaeth mewn addysg a disgwyliadau uchel

· Arweinydd sy'n ysbrydoli, cymell a grymuso pobl eraill

· Cyfathrebwr ardderchog sy'n gallu cysylltu â theuluoedd a rhanddeiliaid

· Ymarferydd dosbarth rhagorol sydd yr un mor angerddol am ddatblygiad emosiynol ac academaidd pob plentyn sydd dan ei ofal

· Unigolyn arloesol a gwybodus sydd â'r hyder i arwain ar weledigaeth yr ysgol ar gyfer y cwricwlwm newydd

· Ymgeisydd gyda dealltwriaeth a gwybodaeth am ddiwygiadau ADY er mwyn cefnogi pawb o fewn yr ysgol

· Ymgeisydd â dealltwriaeth dda o gynnydd ac asesu disgyblion.

Rydyn ni'n gallu cynnig:

· Plant brwdfrydig, chwilfrydig a chyfeillgar

· Amgylchedd gweithio cadarnhaol a chyfeillgar

· Carfan o staff gweithgar, ymroddedig a medrus iawn

· Rhieni a chorff llywodraethu cefnogol

· Ymrwymiad i'ch datblygiad proffesiynol

Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r broses ymgeisio, ffoniwch Jo Thomas, (AD) ar (01443) 444526 neu e-bostio Joanne.Thomas@rctcbc.gov.uk

Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw 17/05/2024

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.