THE DETAILS:
  • Location: Swansea,
  • Salary Type: Not Supplied
  • Language: English
  • Closing Date: 07 July, 2024 12:00 AM

This job application date has now expired.

Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr : Teacher

Swansea Council
Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr
Heol Sant Alban
Brynmill
Abertawe
SA2 0BP
E-bost/E-Mail: ygg.brynymor@swansea-edunet.gov.uk

Tel/FFon: Tel: 01792 466354

Dylai'r ymgeisydd fod yn ymrwymedig i ddarparu addysg o'r radd flaenaf er lles ein disgyblion. Rydym yn chwilio am beron sydd â diddordeb mewn chwaraeon.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus:
  • fod yn frwd dros addysg Gymraeg.
  • fod yn athro/athrawes â phersonoliaeth bositif , sy'n mwynhau gweithio gyda phlant ac yn ymarferydd â safonau uchel.
  • weithio fel rhan o dîm ymroddgar.
  • feddu ar wybodaeth gynhwysfawr am addysgeg a chyda sgiliau dysgu o safon uchel a fydd yn herio ac yn ysgogi disgyblion.
  • ddatblygu amgylchedd ddysgu symbylol a chyffrous ac yn datblygu profiadau disgyblion yn unol â Chwricwlwm i Gymru.
  • ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus.
  • gyfrannu at fywyd allgyrsiol yr Ysgol.
  • i fod yn rhan o'r tîm iechyd a lles ac yn gyfrifol am elfen iechyd corfforol yr ysgol.

Gallwn gynnig i chi:
  • ysgol hapus a chroesawgar
  • tîm o staff blaengar ac arloesol
  • disgyblion gweithgar a chwrtais, sydd wedi eu disgrifio fel 'rhagorol' yn ein adroddiad ESTYN mwyaf diweddar
  • ysgol sydd â gwerthoedd cadarnhaol sydd wrth wraidd popeth
  • datblygiad proffesiynol heb ei hail.

Dychwelwch eich ffurflen gais drwy e bost yr ysgol neu trwy ei yrru at sylw'r Pennaeth i gyfeiriad yr ysgol.

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc) [120KB]

Swydd ddisgrifiad athrawes- athro YGBYM 2024 (PDF) [88KB]

Dyddiad Cau: 07.06.2024 - 3pm

Cyfweliadau ac arsylwadau: Yn ystod wythnos yn decrhau 10.06.2024

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch i https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Mae'r Awdurdod yn unol â'r Polisi Diogelu Corfforaethol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion ac yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r Awdurdod yn disgwyl i'r holl staff ymgymryd ag hyfforddiant diogelu gorfodol a bod yn ymwybodol o'r wybodaeth ddiweddaraf am warchod plant ac oedolion.

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Mae'r swydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd gael y lefel datgelu GDG fel y nodir isod: Cais am Ddatgeliad GDG Manwl