THE DETAILS:
  • Hours: Full time
  • Contract: Fixed Term
  • Salary Type: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Language: English
  • Closing Date: 15 July, 2024 12:00 AM
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Athro/Athrawes - Ysgol Bro Penfro

Pembrokeshire County Council

Salary: MPS-UPS: £30,742 - £47,340

Disgrifiad Swydd

Pecyn Swydd

Mae Corff Llywodraethol Dros Dro Ysgol Gymraeg Bro Penfro yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chymwys i ymgymryd â'r swydd hon. Chwiliwn am addysgwr talentog a brwdfrydig a fydd yn barod i gyfrannu'n llawn at godi safonau academaidd a chyfrannu tuag at fywyd allgyrsiol yr ysgol. Mae hwn yn gyfle i unigolyn sy'n chwilio am her i fod yn rhan o dîm uchelgeisiol sydd â gweledigaeth i ddarparu addysg o'r radd flaenaf i ddisgyblion yr ysgol ac i ddatblygu addysg Gymraeg yn Ne Sir Benfro. Cytundeb dros dro fydd yn cael ei gynnig a disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar y gwaith o fis Medi 2024 ymlaen.

Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn nhref hanesyddol Penfro yw Ysgol Bro Penfro a fydd yn agor ym Medi 2024 gan gynnig cyfleusterau rhagorol. Y nod yw sicrhau bod yr ysgol yn cynnig profiadau addysgiadol arloesol a bydd ffocws clir ar alluogi'r disgyblion i gyfranogi a datblygu mewn amgylchedd ysgogol, hapus a diogel.

Os oes diddordeb gennych mewn ymgeisio yna gofynnwn yn garedig i chi gwblhau ffurflen gais Awdurdod Sir Benfro. Dylech ystyried y fanyleb person a'r disgrifiad swydd yn ofalus wrth gwblhau'r cais gan amlinellu eich rhinweddau, eich profiad a'ch syniadau ar gyfer y rôl.

Os hoffech drafod cynnwys y swydd hon ymhellach, yna cysylltwch â'r Pennaeth Gweithredol, Mr Dafydd Hughes trwy e-bost ar HughesD435@Hwbcymru.net neu trwy ffonio 01437 808470.

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd yw dydd Gwener, Gorffennaf 5ed 2024.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

• Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk

• Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk

• Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.