THE DETAILS:
  • Location: One Canal Parade,
  • Hours: Full time
  • Contract: Fixed Term
  • Salary Type: Annual
  • Language: English
  • Closing Date: 09 September, 2024 12:00 AM

This job application date has now expired.

Anogwr Dysgu Sylfaen x 3

Cardiff and Vale College
Mae adran Dysgu Sylfaen Coleg Caerdydd a'r Fro yn darparu cyrsiau ar gyfer bobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a/neu Anableddau, a'r rheiny nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae'r adran yn tyfu'n flynyddol, ac mae ein cwricwlwm ar gyfer 2023/24 yn cynnwys 32 o gyrsiau ar gyfer 400+ o ddysgwyr posib ar draws 4 lleoliad gwahanol. Mae ein cyrsiau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar gyflawni deilliannau, wedi eu trefnu i'r meysydd canlynol.

  • Sylfaen Byw'n Annibynnol
  • Sylfaen Gwaith
  • Sylfaen Astudio


Mae cyfle cyffrous wedi codi i weithio fel Anogwr ar ein Cyrsiau Sylfaen Dysgu.

Mae'r swydd hon yn cynnwys cefnogi dysgwyr ar gyrsiau Mynediad Galwedigaethol i sicrhau eu hymgysylltiad â dysgu. Mae'r swydd hon yn dibynnu ar ddull hyblyg sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i fodloni anghenion dysgwyr. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda grwpiau bach yn yr ystafell ddosbarth neu mewn lleoliadau galwedigaethol i gefnogi addysgu a dysgu. Bydd hefyd yn cynnwys gweithio mewn rôl fugeiliol; gan gefnogi dysgwyr i reoleiddio ac ymgysylltu â gwasanaethau cymorth ehangach, gan sicrhau cadw myfyrwyr a chynnal eu llesiant.

Bydd y rôl yn gofyn am ddealltwriaeth o effaith diwylliant o garedigrwydd a bydd ymgeiswyr yn arddangos arfer gwybodus o ran trawma. Bydd rhan o hyn yn cynnwys bod yn oedolyn sydd ar gael yn emosiynol i ddysgwyr ac yn gofyn am sgiliau rhyngbersonol cryf a'r gallu i reoli risg i ddysgwyr mewn argyfwng. Bydd y rôl yn cynnwys rhannu gwybodaeth a gweithio'n gydweithredol gyda gwasanaethau cymorth Taith Dysgwyr a'r tîm cwricwlwm Dysgu Sylfaen.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw hanner dydd ar 11/08/2024.

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol drwy ffonio 02920250311 neu anfonwch e-bost i recruitment@cavc.ac.uk.

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.