THE DETAILS:
Apply Now (CY)
- Location: Rhondda Cynon Taf,
- Hours: Full time
- Contract: Permanent
- Salary Type: Annual
- Salary: Cyflog Graddfa Athro, a Thaliad Cyfrifoldeb Addysgu a Dysgu o £3,271
- Language: Welsh
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Salary: Cyflog Graddfa Athro, a Thaliad Cyfrifoldeb Addysgu a Dysgu o £3,271
Athro/Athrawes A Chydlynydd Anghenion Dysgu YchwanegolCyflog: Cyflog Graddfa Athro, a Thaliad Cyfrifoldeb Addysgu a Dysgu o £3,271
Dyddiad Dechrau: 1 af Ionawr 2025 neu cyn gynted â bo modd
Nifer ar y Gofrestr: 195
Mae'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethol am benodi Athro Dosbarth a Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol i weithio gyda'n Uwch Dîm Rheoli a holl staff addysgu’r ysgol. Rydym yn chwilio am CADY brwdfrydig, angerddol ac ymroddedig sydd yn drefnus a gofalgar tra’n cefnogi ein disgyblion, rhieni a staff.
Rydym yn chwilio am:
- Ymarferydd dosbarth rhagorol, sydd yr un mor angerddol ac ymroddedig i ddatblygiad emosiynol ac academaidd pob plentyn yn eu gofal.
- Unigolyn sy’n gallu gweithio fel rhan o dîm llwyddiannus i hyrwyddo a datblygu dysgu ac addysgu cynhwysol ar draws yr ysgol
- Sicrhau bod pob disgybl yn yr ysgol yn cael y cymorth priodol i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial drwy oruchwylio, monitro a rheoli darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol, cymorth a chynhwysiant ar draws yr ysgol.
- Arwain ADY o fewn yr ysgol a bod yn gyfrifol am ddarparu cyngor arbenigol, arweiniad, a hyfforddiant mewn ADY a chynhwysiad i holl staff Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail a thrwy hynny sicrhau bod yr holl staff yn diwallu anghenion yr holl fyfyrwyr.
- Sicrhau bod yr holl gyfrifoldebau statudol yn eu lle.
- plant brwdfrydig, chwilfrydig, a chroesawgar
- staff gweithgar, ymroddedig a medrus
- rhieni a chorff llywodraethol cefnogol
- ymrwymiad i'ch datblygiad proffesiynol
Sylwch, i wneud cais am y swydd yma mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio Ysgolion. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw 28ain o Dachwedd canol nos.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.