THE DETAILS:
  • Location: Swansea,
  • Salary Type: Not Supplied
  • Language: English
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr: Athro/Athrawes

Swansea Council
Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr
Heol Sant Alban
Brynmill
Abertawe
SA2 0BP

Tel: 01792 466354
E-bost/E-Mail: ygg.brynymor@swansea-edunet.gov.uk
Gwefan/Website: www.yggbrynymor.co.uk
Pennaeth/Head Teacher: Mrs Elin Wakeham

Disgrifiad: Rydym am benodi person ymroddgar, hyblyg a brwdfrydig i ymuno â theulu Bryn y Môr. Bydd y rôl dysgu hon yn un sy'n eistedd oddi fewn i gyfrifoldebau'r tîm anghenion dysgu ychwanegol. Prif ddyletswyddau'r rôl fydd i gefnogi'r CADY a gweithredu'r ddarpariaeth a'n trefniadau ADY. Bydd y rôl yn gofyn i'r athro/athrawes gefnogi grwpiau o ddysgwyr ac unigolion lle po angen.

Dylai'r ymgeisydd fod yn ymrwymedig i ddarparu addysg o'r radd flaenaf er lles ein disgyblion.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus:
  • fod yn frwd dros addysg Gymraeg.
  • fod yn athro/athrawes â phersonoliaeth bositif, sy'n mwynhau gweithio gyda phlant ac yn ymarferydd â safonau uchel.
  • weithio fel rhan o dîm ymroddgar.
  • feddu ar wybodaeth gynhwysfawr am addysgeg a chyda sgiliau dysgu o safon uchel a fydd yn herio ac yn ysgogi disgyblion.
  • ddatblygu amgylchedd ddysgu symbylol a chyffrous ac yn datblygu profiadau disgyblion yn unol â Chwricwlwm i Gymru.
  • ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus.
  • gyfrannu at fywyd allgyrsiol yr Ysgol.
  • i fod yn rhan o'r tîm ADY.

Gallwn gynnig i chi:
  • ysgol hapus a chroesawgar.
  • tîm o staff blaengar ac arloesol.
  • disgyblion gweithgar a chwrtais, sydd wedi eu disgrifio fel 'rhagorol' yn ein hadroddiad ESTYN mwyaf diweddar.
  • ysgol sydd â gwerthoedd cadarnhaol sydd wrth wraidd popeth.
  • datblygiad proffesiynol heb ei hail.

Dychwelwch eich ffurflen gais drwy e bost yr ysgol neu trwy ei yrru at sylw'r Pennaeth i gyfeiriad yr ysgol.

Dyddiad cau: 31.01.2025 - 12pm

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch i https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Diogelu: Mae'r Awdurdod yn unol â'r Polisi Diogelu Corfforaethol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion ac yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r Awdurdod yn disgwyl i'r holl staff ymgymryd ag hyfforddiant diogelu gorfodol a bod yn ymwybodol o'r wybodaeth ddiweddaraf am warchod plant ac oedolion.

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Mae'r swydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd gael y lefel datgelu GDG fel y nodir isod: Cais am Ddatgeliad GDG Manwl.

Disgrifiad Swydd - Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr - Athro/Athrawes ( PDF, 99 KB )

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig ( Word doc, 120 KB )