THE DETAILS:
Apply Now (CY)
- Location: Swansea,
- Salary Type: Not Supplied
- Language: English
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Heol Gwyrosydd
Penlan
Abertawe
SA5 7BU
Bwriad y cynllun yw recriwtio athrawon o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o'r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe am gyfnod o ddwy flynedd gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd.
Gwahoddwn geisiadau gan bobl frwdfrydig a blaengar sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol gyfun cyfrwng Gymraeg o fewn y meysydd pynciol canlynol:
Bydd rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus fod wedi graddio o fewn pwnc neu faes sy'n berthnasol i'r meysydd pynciol uchod.
Gyda datblygiadau cyffrous iawn ym myd addysg, â'r ffocws ar ddatblygu medrau dwyieithrwydd, digidol a meddwl dwfn disgyblion, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle i ysgogi, i ysbrydoli ac i arfogi ein disgyblion â'r medrau hanfodol ar gyfer dyfodol llwyddiannus.
Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Mae ein staff gweithgar a thalentog yn allweddol wrth yrru llwyddiannau'r ysgol yn ogystal â sicrhau'r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.
Mae'r cynllun yma yn cynnig dwy flwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Agored, byddwch yn derbyn cefnogaeth i hyfforddi fel athro yn y sector uwchradd a cyn derbyn statws athro cymwysedig ar ddiwedd y cwrs.
Bydd ffocws clir yn ystod yr hyfforddiant ar addysgu gyda phwyslais ar y canlynol:
Bydd gennych Fentor Pynciol a Chydlynydd Ysgol i'ch cefnogi yn ogystal â thiwtor pynciol a chwricwlwm (gyda'r Brifysgol Agored) er mwyn eich cefnogi yn broffesiynol. Yn ogystal â hyn, bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.
Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd yn awyddus i:
Nodwyd bod y cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.
Mae'r cynllun hwn wedi'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.
Proses ymgeisio:
Danfonwch gopi o CV cyfredol a chwblhewch y ffurflen gais. Danfonwch y rhain at LeonardE18@hwbcymru.net erbyn hanner dydd ar ddydd Gwener, 31ain Ionawr.
Application form - primary, secondary, special teachers ( Word doc, 117 KB )
Am unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r cyfle, cysylltwch gyda Mrs Leonard ar: 01792 560605; neu drwy e-bost: LeonardE18@hwbcymru.net neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth Cynorthwyol, Mr Chris Shaw yn yr ysgol neu drwy e-bost ShawC36@hwbcymru.net
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

- Y Gymraeg
- Saesneg (ar ben ei hun neu gyda Drama neu Cyfryngau)
- Mathemateg
- Gwyddoniaeth
- Ieithoedd Tramor Modern
- Technoleg
- Technoleg Gwybodaeth
Bydd rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus fod wedi graddio o fewn pwnc neu faes sy'n berthnasol i'r meysydd pynciol uchod.
Gyda datblygiadau cyffrous iawn ym myd addysg, â'r ffocws ar ddatblygu medrau dwyieithrwydd, digidol a meddwl dwfn disgyblion, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle i ysgogi, i ysbrydoli ac i arfogi ein disgyblion â'r medrau hanfodol ar gyfer dyfodol llwyddiannus.
Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Mae ein staff gweithgar a thalentog yn allweddol wrth yrru llwyddiannau'r ysgol yn ogystal â sicrhau'r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.
Mae'r cynllun yma yn cynnig dwy flwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Agored, byddwch yn derbyn cefnogaeth i hyfforddi fel athro yn y sector uwchradd a cyn derbyn statws athro cymwysedig ar ddiwedd y cwrs.
Bydd ffocws clir yn ystod yr hyfforddiant ar addysgu gyda phwyslais ar y canlynol:
- Addysgeg
- Cynllunio gwersi
- Asesu, marcio ac adborth
- Rheolaeth ddosbarth
- Ymchwil
- Sgiliau ieithyddol a sesiynau gloywi iaith (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn)
Bydd gennych Fentor Pynciol a Chydlynydd Ysgol i'ch cefnogi yn ogystal â thiwtor pynciol a chwricwlwm (gyda'r Brifysgol Agored) er mwyn eich cefnogi yn broffesiynol. Yn ogystal â hyn, bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.
Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd yn awyddus i:
- weithio gyda disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar.
- weithio mewn ysgol sydd yn ymrwymedig i ddatblygu creadigrwydd addysgu a chydweithio'n agos er mwyn sicrhau llwyddiant pob disgybl o bob gallu.
- weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol, proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion.
- ddatblygiad gyrfa bellach