THE DETAILS:
- Location: Rhondda Cynon Taf,
- Hours: Full time
- Contract: Temporary
- Salary Type: Annual
- Salary: Gradd 7 (£30,060 x 77.15%)
- Language: Welsh
- Closing Date: 07 March, 2025 12:00 AM
This job application date has now expired.
Salary: Gradd 7 (£30,060 x 77.15%)
Anogwr Dysgu (Lefel 4) YGG Awel TafYsgol Gynradd Gymraeg Awel Taf
Holly Street, Rhydyfelin, Pontypridd
CF37 5DB
01443 490750
Nifer y disgyblion wedi'u cofrestru: 346
Anogwr Dysgu (Lefel 4)
Nifer yr oriau fesul wythnos: 32.5 (Tymor yr ysgol yn unig)
Cyflog: Gradd 7 (£30,060 x 77.15%)
Dyddiad dechrau: 28ain o Ebrill 2025
Ydych chi’n barod am yr her nesaf? Dewch i weithio gyda ni yn Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf.
Mae’r Pennaeth a’r Corff Llywodraethol am benodi unigolyn hyblyg a dyfeisgar sy’n rhannu’r un angerdd am ddysgu â thîm yr ysgol ac sy’n ymdrechu i geisio rhagoriaeth ym mhob dydd.
Rydym yn chwilio am:
- Unigolyn, sydd ag ethos Cymreig cryf ac angerdd i ddiogelu dyfodol y Gymraeg yn ardal Pontypridd a’r ardal ehangach, i gwrdd â'r weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
- Unigolyn sydd yn mwynhau gweithio gyda phlant o bob oedran; dosbarth cyfan, grwpiau bach neu un i un. Person sydd yn dal i wenu beth bynnag sy'n digwydd, yn greadigol, yn ddigynnwrf ac yn wir yn credu bod pob plentyn bob amser yn bwysig
- Plant brwdfrydig, chwilfrydig, a chroesawgar
- Mynediad i ystafelloedd dosbarth modern, llawn offer ac adnoddau sy'n cefnogi eich dulliau addysgu ac yn cyfoethogi'r profiad dysgu.
- staff gweithgar, ymroddedig a medrus
- rhieni a chorff llywodraethol cefnogol
- ymrwymiad i'ch datblygiad proffesiynol
Sylwch, i wneud cais am y swydd yma mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio Ysgolion. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am y swydd, ffoniwch Mrs Jones, Pennaeth, ar 01443 490750 nodwch rif ffôn.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Canol Nos ar 07 Mawrth 2025
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.