THE DETAILS:
  • Location: Swansea,
  • Salary Type: Not Supplied
  • Language: English
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw : Learning Support Assistant Level 2

Swansea Council
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw yn chwilio am unigolyn egnïol a brwdfrydig i ymuno â thîm gweithgar o fewn yr ysgol. Disgwylir i'r ymgeisydd fod yn llwyr ymroddedig i rannu gweledigaeth ac amcanion yr ysgol a chyfrannu at ethos arbennig yr ysgol hon.

Os oes gyda chi ddiddordeb yn y swydd yma gofynnwn yn garedig i chi gwblhau'r ffurflen gais sydd wedi atodi isod, yn ogystal â llythyr byr yn amlygu eich cryfderau, eich doniau a'ch profiad a'u danfon at 6702235 - YGGLlwynderw@Hwbcymru.net

Disgwylir i'r llythyron cais fod yn y Gymraeg.

Er mwyn derbyn manylion pellach, cysylltwch â'r ysgol drwy ffonio 01792 407130 neu ebostiwch 6702235 _ YGGLlwynderw@Hwbcymru.net

Application form - school-based support staff ( Word doc, 134 KB )

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau : 14.03.25

Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal ar : 20.03.25

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod a fydd yn dechrau ar: 28.04.25 (neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.)

Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriad Uwch y Swyddfa Cofnodion Troseddol.

Diogelu

Mae'r swydd hon yn gofyn am Lefel Uwch o DBS. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad DBS boddhaol.

Yn unol â'r Polisi Diogelu Corfforaethol, mae'r Awdurdod wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r Awdurdod yn disgwyl i'r holl staff ymgymryd â hyfforddiant diogelu gorfodol ar gyfer amddiffyn plant ac oedolion a sicrhau bod ganddynt y wybodaeth ddiweddaraf yn y maes hwn.

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol