THE DETAILS:
Apply Now (CY)
- Location: Aberystwyth,
- Hours: Full time
- Contract: Permanent
- Salary Type: Annual
- Salary: 66,430 - 76,238 *
- Language: Welsh
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Salary: 66,430 - 76,238 *
About the roleThe following is for an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Yn sgil penodiad ein Pennaeth presennol i ysgol uwchradd o fewn yr ardal, mae Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn awyddus i benodi olynydd ymroddedig ac ysbrydoledig ar gyfer yr ysgol gynradd gymunedol boblogaidd hon. Lleolir Ysgol Gymraeg Aberystwyth ar gyrion tref glan y môr Aberystwyth yng Ngheredigion. Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol. Dyma ysgol Gymraeg benodedig gyntaf Cymru a sefydlwyd yn 1939 gan Syr Ifan ab Owen Edwards.
Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn ysgol gynradd fawr, hynod lwyddiannus, gyda 365 o ddisgyblion ar y gofrestr.Daw'r plant atom o dref Aberystwyth ac o'r ardaloedd gwledig cyfagos.
Mae holl waith a bywyd yr ysgol yn seiliedig ar dri nod cytûn ar gyfer ei disgyblion a'i staff, sef hybu balchder yn eu Cymreictod, parchu ei gilydd a gwneud eu gorau glas. Mae'r nodau hyn yn treiddio'n gryf iawn trwy holl weithgareddau'r ysgol. Mae llais y disgybl yn bwysig ac yn cael ei barchu drwy'r ysgol.
Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ffynnu ac yn manteisio ar gyfleoedd pellach i ragori yn y dyfodol. Rydym am benodi unigolyn profiadol sy'n meddu ar nodweddion arweinyddiaeth a rheolaeth rhagorol ac a fydd yn:
- hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb tra'n hyrwyddo cymuned gefnogol a chynhwysol
- annog ac yn cefnogi disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnolac uchelgeisiol
- ysbrydoli ac yn hybu datblygiad staff o ran addysgu a dysgu arloesol
- annog ymrwymiad rhieni a'r gymuned o fewn yr ysgol
- gweledigaeth glir o ran datblygiad yr ysgol hon sydd wedi ei hen sefydlu ac sy'n rhoi lle canolog i'r Gymraeg yn y gymuned
- y gallu i annog disgyblion i gofleidio'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yn llawn ac i annog rhieni i gefnogi'r Gymraeg adref
- dealltwriaeth o arferion dysgu effeithiol ac ymrwymiad cryf i barhau i'w datblygu drwy'r ysgol yn y dyfodol
- medrau cadarn o ran cyfathrebu, ymwneud ag eraill, rheoli a threfnu
- dealltwriaeth o bwysigrwydd datblygiad unigol pob disgybl er mwyn iddynt gyflawni ei lawn botensial
- gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol a gwir ddiddordeb yn y maes
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tîmer mwyn sicrhau'r cyfleoedd gorau posib i bob disgybl
- ymrwymiad cryf i gyfoethogi'r cysylltiadau gyda'r Llywodraethwyr, y gymuned leol, ysgolion eraill a'r Urdd
Manyleb Person
Mae croeso i ymgeiswyr sy'n dymuno ymweld â'r ysgol cyn gwneud cais, wneud hynny drwy gysylltu â Nia Evans, Cadeirydd y Llywodraethwyr trwy EvansN410@hwbcymru.net i drefnu ymweliad. Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch ag Elen Gwenllian Davies, Ymgynghorydd Cefnogi Ysgolion, ar 07970 000479 neu drwy e-bost elen.gwenllian.davies@ceredigion.gov.uk
Dyddiad Cau: Dydd Llun, y 24ain o Fawrth 2025 (hanner nos)
Cyfweliadau: Dydd Mawrth, 8fed o Ebrill 2025(gofynnir i ymgeiswyr sicrhau eu bod ar gael ar y diwrnod hwn) a gynhelir yng Nghanolfan Rheidol, Aberystwyth
Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer swydd Pennaeth Yr Ysgol Gymraeg lle mae rhuglder llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol. Rhaid i bob ymgeisydd feddu ar gymhwyster CPCP.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
What we offer
Work-life balance
Lifestyle savings scheme
Generous employer pension scheme
Cycle to work scheme
Learning and development
Where you'll work
Schools and Culture
We offer appropriate challenge and support to our schools, to help them deliver first class education to all pupils, across the age and ability range. Our primary functions are as follows:
- School Improvement: Leadership; Support and Challenge, Teaching and Learning; Digital Literacy; Literacy and Numeracy; Welsh in Education
- Additional Learning Needs: Provision for pupils with Additional Learning Needs, Inclusion; Attendance; Educational Psychology
- Pupil Wellbeing:Counselling; Welfare; Anti-Bullying, Pupil Voice
- Education Governance: Data ; Governor Support, Policy support
- School Admissions
- Culture: Music Service; Cered; Felinfach Theatre; Museum
- Infrastructure and Resources: Planning School Places; Modernisation and Twenty First Century Schools Programme; Buildings; Grants
- Catering: Day Centres; Primary Schools; Residential homes.
- Childcare Unit: Childcare Sufficiency Assessment; Childcare & Play Grant; Childcare Offer; Out of School (After School Clubs and Holiday Playschemes); Day Nursery, Cylch/Playgroup & Childminder business support and staff training
Read more