THE DETAILS:
  • Location: Pontardawe,
  • Hours: Part time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annual
  • Salary: £16,208 - £17,266 (Gradd 4 SCP 5-9)
  • Language: English
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Gweinyddiaeth a Threfniadaeth Lefel 3

Neath Port Talbot Council

Salary: £16,208 - £17,266 (Gradd 4 SCP 5-9)

I ddechrau: Medi 2025

Mae'r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â'r ysgol hapus a llwyddiannus hon.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau cymdeithasol a chroesawgar er mwyn iddynt fod yn un o'r cysylltiadau cyntaf gydag ymwelwyr, disgyblion a rhieni. Byddai profiad blaenorol o weithio o fewn ysgol /gweinyddiaeth llywodraeth leol yn fanteisiol ond nid yn hanfodol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.

Bydd angen datblygu gwybodaeth ymarferol gadarn o'r rhaglen SIMS.net (System Rheoli Gwybodaeth Ysgol) a modiwlau cysylltiedig arall. Byddai'n fantais pe bae gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth flaenorol o'r rhaglenni Word, Excel a systemau eraill a ddefnyddir yn y swyddfa / ysgol ond fe ddarparir hyfforddiant llawn i'r ymgeisydd llwyddiannus.

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gyfarwydd a gweithio o dan bwysau mewn amgylchedd swyddfa brysur a chael y gallu i weithio fel aelod o dîm. Bydd angen nodweddion personol o egni, brwdfrydedd ar yr ymgeisydd llwyddiannus yn ogystal â'r gallu i gyfathrebu'n glir, gywir ac yn fanwl ar bob lefel.

Mae safon uchel o sgiliau rhyngbersonol, cynllunio a threfniadol yn hanfodol i'r swydd.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles.

Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).

Os hoffech drafod y swydd ymhellach cysylltwch â Phennaeth yr ysgol Mr Martin Evans - 01792 862136

Application forms submitted in either Welsh or English will be accepted.

Dyddiad cau : 12 hanner dydd, 28ain o Ebrill 2025