THE DETAILS:
Login to apply
- Location: Monmouth, Monmouthshire, NP25 3YT
- Subject: Welsh
- Hours: Part Time
- Contract: Permanent
- Salary Type: Monthly
- Language: Bilingual
Athro/Athrawes y Gymraeg
Parhaol; Rhan Amser (0.6) yn dechrau ar 1af Medi 2025
Rydym yn falch iawn o’n hysgol gynhwysol ac uchelgeisiol, ac mae gennym ddisgwyliadau uchel tu hwnt ar gyfer pob un o’n myfyrwyr. Rydym yn ymfalchïo yn eu galluogi i dyfu ac i ffynnu. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen i’n myfyrwyr wneud dau beth syml – gweithio’n galed a bod yn garedig. Mae ein myfyrwyr a’n staff yn ffynnu mewn cymuned lle mae cysondeb a’n harferion yn mynd law yn llaw ag adnabod pob myfyriwr yn dda a’u cefnogi i gyflawni eu potensial.
Mae gennym fudd adeilad ysgol gwych, sydd wedi ennill gwobrau, a gafodd ei gwblhau’n ddiweddar dan raglen Ysgolion 21ain Ganrif. Mae’n gyfleuster modern gwych sydd ag addysg yn greiddiol iddo. Mewn lleoliad yng nghanol Trefynwy, rydym yn gwasanaethu ein cymuned leol yn ogystal ag ardaloedd cyfagos yng Nghymru a hefyd yn Lloegr. Mae gennym tua 1,700 o fyfyrwyr a 200 o staff, ac mae mwy o alw nag o leoedd ar gael ym mhob grŵp blwyddyn.
Rydym yn hollol benderfynol i ddarparu safon rhagorol o addysg ar gyfer pob plentyn sy’n dod i’n hysgol, fel eu bod yn cael cyfle i arwain bywydau hapus a llwyddiannus. Mae ein hymagwedd at y Cwricwlwm i Gymru wedi ei seilio ar bwysigrwydd pynciau ac ar egwyddor gwybodaeth rymus. Mae ein gwaith ar hyn yn destun astudiaeth achos ddiweddar gan Estyn i rannu ein harfer yn ehangach. Mae ein haddysgeg wedi ei seilio ar dystiolaeth ymchwil ar ddysgu ac ar sut i gynyddu cynnydd myfyrwyr i’r eithaf.
Rydym yn hollol gyfun ac yn darparu ar gyfer ystod eang o anghenion dysgu. Ar hyn o bryd mae 14% o boblogaeth yr ysgol ar y Gofrestr Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae gennym hefyd Ganolfan Adnoddau Arbenigol integredig, sydd hefyd yn destun astudiaeth achos ddiweddar gan Estyn am ei darpariaeth eithriadol o gryf. Daw myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol a’r cyfartaledd treigl ar gyfer prydau ysgol am ddim yw 13.8%.
Croesawn geisiadau gan ymgeiswyr y mae eu nodweddion a gwerthoedd personol yn adlewyrchu’r rhai yn y fanyleb person, ac y mae eu profiadau hefyd yn eu rhoi mewn sefyllfa gryf i gyflawni’r disgrifiad swydd. Caiff rhaglen gynefino lawn a dysgu proffesiynol ystyrlon eu cynnig i'r holl staff.
Byddwch yn ein cael yn grŵp o gydweithwyr cefnogol sy’n gweithio i ddarparu safon eithriadol o addysg ar gyfer yr holl fyfyrwyr yn ein gofal. Ymfalchïwn yn fawr yn yr hyn a wnawn, a rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol iawn am yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd yn y dyfodol.
Ffurflen Gais:
Gofynnir i chi nodi na allwn dderbyn CV. Mae modd lawrlwytho ffurflenni gais. Dylid danfon ceisiadau papur sydd wedi eu cwblhau i’r cyfeiriad canlynol: Mrs Laura Claypole, Ysgol Gyfun Trefynwy, Hen Ffordd Dixton, Trefynwy, Sir Fynwy NP25 3YT.
Dylid e-bostio ceisiadau i: mon.recruitment@monmouth.schoolsedu.org.uk
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 30ain Ebrill 2025 am 12:00 canol y dydd
Proses Cyfweliadau:
Dyddiad y Cyfweliad: Dydd Mercher 7fed o Fai
Gwybodaeth Ychwanegol:
Os ydych angen mwy o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda: Mrs Laura Claypole mon.recruitment@monmouth.schoolsedu.org.uk neu 01600 775220
Diogelu:
Caiff penodiad i’r swydd hon ei eithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac mae’n amodol at Wiriad Datgeliad Estynedig. Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol a chytuno gyda pholisiau sy’n cysylltu ag amddiffyn plant a chanllawiau diogelu, iechyd, diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, yn adrodd unrhyw bryderon i’r person priodol.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisadau gan bob adran o’r gymuned. Croesawir ymgeisiadau yn Saesneg neu Gymraeg a byddan nhw’n cael eu trin yn gyfartal.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithredu polisi Dim Ysmygu yn y Gweithle.