THE DETAILS:
  • Location: Swansea,
  • Salary Type: Not Supplied
  • Language: English
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago : Athro Cyfleuster Addysgu Arbenigol : Anawsterau Dysgu Cyffredinol

Swansea Council
YGG Bryniago
Pontarddulais
Abertawe
SA4 8JA
Ffôn: 01792 882012

Rydym yn chwilio am gydweithiwr ysbrydoledig, profiadol ac ymroddedig i sefydlu cyfleuster addysgu cyfrwng Cymraeg arbenigol newydd sbon. Bydd gofyn i'r athro Cyfleuster Addysgu Arbenigol (CAA) gynllunio a chyflwyno cwricwlwm creadigol, amlsynhwyraidd wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion cyfannol ein disgyblion unigol. Mae angen profiad perthnasol o weithio gyda phlant mewn ysgol arbennig, STF/ CAA, blynyddoedd cynnar neu leoliad cynradd.

YR HYN RYDYM YN EI GYNNIG:
  • Cymuned weithgar a hapus, sy'n cynnig amgylchedd gofalgar, diogel a chroesawgar
  • Diwylliant cadarnhaol sy'n meithrin egwyddorion arwyddair yr ysgol yn dda, sef 'Dim ond ein gorau glas sy'n ddigon da'
  • Plant brwdfrydig, staff gweithgar a llywodraethwyr cefnogol
  • Cwricwlwm perthnasol sy'n cwmpasu'r meysydd dysgu a phrofiad sy'n herio ac ysbrydoli dysgwyr i gyrraedd safonau da
  • Tîm o staff sydd yn rhoi pwyslais cryf ar les corfforol ac emosiynol disgyblion a sy'n dathlu gwahaniaethau o fewn cymdeithas
  • Cymorth pwrpasol o ansawdd uchel i ddisgyblion ag ADY
  • Ymrwymiad i ddysgu proffesiynol parhaus ar bob lefel

Gwahoddir pob darpar ymgeisydd i fynd ar daith o amgylch yr ysgol, am 3.45pm ddydd Llun 28 Ebrill 2025. Rhaid archebu lleoedd ar gyfer y daith hon ymlaen llaw. Gellir gwneud hyn drwy gysylltu â swyddfa'r ysgol yn ygg.bryniago@swansea-edunet.gov.uk

Bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer ddangos eu haddysgu rhagorol trwy arsylwad gwers gan y pennaeth/ dirprwy-bennaeth.
Ymweliad ag Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago: Dydd Llun 28 Ebrill 2025. Cysylltwch â'r ysgol i drefnu apwyntiad.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner dydd Mercher, Ebrill 30ain 2025
Rhestr Fer: Dydd Iau, Mai 1af.
Sylwadau gwersi: Wythnos yn dechrau 4ydd Mai, i'w gadarnhau gan y pennaeth
Cyfweliadau: Dydd Iau 8 Mai 2025

Application form - primary, secondary, special teachers ( Word doc, 117 KB )

Athro Cyfleuster Addysgu Arbenigol - Anawsterau Dysgu Cyffredinol Disgrifiad swydd ( PDF, 287 KB )

Athro Cyfleuster Addysgu Arbenigol - Anawsterau Dysgu Cyffredinol Manyleb swydd ( PDF, 350 KB )

Cyflwynwch eich llythyr cais a ffurflen gais wedi'i llenwi i swyddfa'r Ysgol, yn ygg.bryniago@swansea-edunet.gov.uk at sylw'r pennaeth.

Bydd yr holl ymgeiswyr yn derbyn ymateb, i gadarnhau ein bod wedi derbyn y cais. Mae disgrifiad swydd manwl ar gael gyda'r ffurflen gais.
Mae ffurflenni cais a manylion pellach ar gael ar wefan Swyddi Addysgu Abertawe https://www.swansea.gov.uk/schooljobs
Mae'r swydd yn amodol ar Ddatgeliad Uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Yng Nghyngor Abertawe, mae egwyddor "Diogelu yw Busnes i Bawb," ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol