THE DETAILS:
  • Location: Llandysul,
  • Hours: Part time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annual
  • Salary: 38,365 - 55,876 *
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 16 May, 2025 12:00 AM
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Business Teacher and Vocational Leader - Ysgol Bro Teifi

Ceredigion County Council

Salary: 38,365 - 55,876 *

About the role
Please note that the advertised salary for this position is subject to a pending pay award. The final salary will be adjusted in line with the nationally agreed pay award.

The following is for an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.

Athro/Athrawes Busnes ac Arweinydd Galwedigaethol 14-19

Dyddiad Dechrau: 1af o Fedi 2025

Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi addysgwr blaengar, cydwybodol a phrofiadol i ymuno a'r ysgol fel athro/athrawes Busnes ac Arweinydd Galwedigaethol ar gytundeb rhan amser a pharhaol.

Byddyr ymgeisydd llwyddiannus yn:
  • angerddoldros ddysgu ac yn barod i fynd y filltir ychwanegol i wneud yn siur fod disgyblion yn derbyn profiadau dysgu gwerthfawr a fydd yn caniatáu iddynt dderbyn cymwysterau a phrofiadau gwerthfawr mewn meysydd galwedigaethol.
  • addysgwr rhagorol sydd a'r gallu i fynnu ar y safonau uchaf o ran cyrhaeddiad mewn cymwysterau cydnabyddedig.
  • Ymroddedig i sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial ac yn gwireddu arwyddair yr ysgol 'oni heuir, ni fedir'.
  • gyfrifol am sicrhau safonau uchel yn y ddarpariaeth alwedigaethol o fewn yr ysgol gan ddangos adnabyddiaeth dda o ofynion a threfniadau byrddau arholi.

Ar hyn o bryd, darperir cymwysterau Busnes, Iechyd a Gofal, Amaethyddiaeth a Thwristiaeth o fewn y maes galwedigaethol 14-19.

Ysgol gydol oed 3-19 yw Ysgol Bro Teifi wedi ei lleoli y tu allan i dref Llandysul yn ne-ddwyrain Ceredigion. Mae rhyw 45 munud o daith o ddiwedd yr M4 a 30 munud o dref Caerfyrddin. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardal wledig, Gymreig gyda thua 79% o'r disgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl a bron i 64% yn siarad Cymraeg yn y cartref.

Agorwyd yr ysgol ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy'r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae'n cynnig cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o'r lleiaf i'r hynaf.

Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu'n sylweddol ac ar hyn o bryd, mae oddeutu 850 o ddisgyblion yn yr ysgol gan gynnwys tua 85 yn y chweched dosbarth.

Arolygwyd yr ysgol gan Estyn yn Nhachwedd 2024 ac adroddwyd bod:

"...staff a disgyblion Ysgol Bro Teifi yn cydweithio'n agos i greu awyrgylch deuluol a chynnal ethos cynhwysol a gofalgar. Mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn sicrhau bod popeth sydd eu hangen arnynt o ran gofal a chefnogaeth ar gael yn ddi-rwystr. O'r dysgu sylfaen i'r chweched dosbarth, mae'r disgyblion yn gwireddu arwyddair yr ysgol, 'Oni heuir, ni fedir', yn llwyddiannus, gan fanteisio ar y cyfleoedd i ddatblygu'n ddinasyddion cyfrifol, parchus a charedig. y Gymraeg."

Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda yn eu gwersi ac o gwmpas yr ysgol. Maent yn dangos parch at ei gilydd ac at staff ac maent yn annwyl a chroesawgar gydag ymwelwyr. Mae bron bob disgybl yn y chweched dosbarth yn arddangos agweddau arbennig o gadarnhaol.

Mae'r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth

Os am drafodaeth anffurfiol ynglwn â'r swydd hon, cysylltwch â Phennaeth Ysgol Bro Teifi, Mr Gareth Evans ar 01559 362503 neu drwy e-bost, EvansG304@broteifi.ceredigion.sch.uk.

Cyfweliadau: 22ain o Fai 2025

Gofynnir i ymgeiswyr i sicrhau eu bod ar gael i fynychu cyfweliad ar y diwrnod uchod cyn gwneud cais.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

What we offer

Work-life balance

Lifestyle savings scheme

Generous employer pension scheme

Cycle to work scheme

Learning and development

Where you'll work

Schools and Culture
We offer appropriate challenge and support to our schools, to help them deliver first class education to all pupils, across the age and ability range. Our primary functions are as follows:
  • School Improvement: Leadership; Support and Challenge, Teaching and Learning; Digital Literacy; Literacy and Numeracy; Welsh in Education
  • Additional Learning Needs: Provision for pupils with Additional Learning Needs, Inclusion; Attendance; Educational Psychology
  • Pupil Wellbeing:Counselling; Welfare; Anti-Bullying, Pupil Voice
  • Education Governance: Data ; Governor Support, Policy support
  • School Admissions
  • Culture: Music Service; Cered; Felinfach Theatre; Museum
  • Infrastructure and Resources: Planning School Places; Modernisation and Twenty First Century Schools Programme; Buildings; Grants
  • Catering: Day Centres; Primary Schools; Residential homes.
  • Childcare Unit: Childcare Sufficiency Assessment; Childcare & Play Grant; Childcare Offer; Out of School (After School Clubs and Holiday Playschemes); Day Nursery, Cylch/Playgroup & Childminder business support and staff training
Llandysul Historically, Llandysul was the hub of the Welsh woollen industry where thousands of people were employed in the water driven mills during the industrial revolution.
Read more