THE DETAILS:
Apply Now (CY)
- Location: Rhondda Cynon Taf,
- Hours: Part time
- Contract: Temporary
- Salary Type: Annual
- Salary: Graddfa gyflog addysgu + TLR (£3,451)
- Language: Welsh
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Athro gyda TLR (Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol) - YGG Evan James
Rhondda Cynon Taf
Salary: Graddfa gyflog addysgu + TLR (£3,451)
Athro gyda TLR (Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol) - YGG Evan JamesYSGOL GYNRADD GYMRAEG EVAN JAMES
Ffordd Y Rhondda,
Pontypridd.
CF37 1HF
Rhif Ffôn: 01443 486813
Athro Dros Dro gyda TLR - Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol
Dros Dro: Medi 2025 - Gorffennaf 2026 (2 ddiwrnod yr wythnos)
Oriau: 13 awr yr wythnos
Cyflog: Graddfa gyflog addysgu + TLR (£3,451)
Rydym yn chwilio am Gydlynydd ADY ymroddedig a phrofiadol i ymuno â'n tîm yn Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James. Rydym yn ysgol groesawgar yng nghanol tref Pontypridd. Fel ein Cydlynydd ADY, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth lunio a chyflwyno darpariaeth o ansawdd uchel i ddisgyblion ag ADY. Byddwch yn cydweithio â staff, teuluoedd, asiantaethau allanol, ac yn bwysicaf oll, y plant, i sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gyrraedd eu potensial llawn.
Prif Gyfrifoldebau
Arwain a rheoli darpariaeth ADY yr ysgol, gan gynnwys adnabod, asesu a monitro dysgwyr.
Cydlynu datblygiad a gweithrediad Cynlluniau Datblygu Unigol mewn partneriaeth â disgyblion a theuluoedd.
Darparu canllawiau, cefnogaeth a datblygiad proffesiynol i gydweithwyr ar strategaethau addysgu cynhwysol a darpariaeth wahaniaethol.
Cysylltu â gweithwyr proffesiynol allanol fel Seicolegwyr Addysg, Gwasanaethau Iechyd a thîm ADY yr Awdurdod Lleol.
Sicrhau cydymffurfiaeth â dyletswyddau statudol a hyrwyddo ethos ysgol gyfan o gynhwysiant a lles.
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
- Â phrofiad sylweddol o weithio mewn lleoliad ysgol gynradd.
- Â dealltwriaeth gref o arfer addysgol cynhwysol.
- Â sgiliau cyfathrebu, arweinyddiaeth a threfnu rhagorol.
- Âg ymrwymiad i hawliau a llais y plentyn ac i degwch mewn addysg.
Rydym yn cynnig:
- Amgylchedd ysgol feithringar a chynhwysol gydag ymdeimlad cryf o gymuned.
- Disgyblion brwdfrydig a gofalgar sy'n caru dysgu.
- Tîm o staff cefnogol a chydweithredol.
- Cyfleoedd dysgu proffesiynol parhaus.
Mae ffurflenni cais, a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd, ar gael ar wefan Swyddi Ysgolion:
https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?USESSION=C0A604064EDDAA8962C0EFC1412CCE2F&WVID=2482495vvA&LANG=CYM
Os ydych yn cael eich cyflogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, gwnewch gais am y swydd drwy eich cyfrif hunanwasanaeth cyflogai ac nid drwy'r ddolen uchod. Os oes gennych unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich cyfrif Hunanwasanaeth Gweithiwr, cysylltwch â thîm iTrent ar 01443 680760 neu itrentadmin@rctcbc.gov.uk.
Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
Mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Mrs Emma Smith am fwy wybodaeth ac i ymweld â’r ysgol (01443 486813)
Gellir cael ffurflen gais, a manylion pellach, oddi ar wefan eteach a dylid ei dychwelyd (wedi ei chwblhau) i: Uned Adnoddau Dynol, Tŷ Elai, Williamstown, Tonypandy. CF40 1NY. Rhif ffôn: (01443) 444549 Neu gellir ebostio ffurflenni i: school.recruitment@rctcbc.gov.uk
Dyddiad cau: Dydd Gwener, Mai 19eg, 2025 am 12:00 y.p.
Mae amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb i'r ysgol a'r cyngor. yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y gwasanaeth datgelu a gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.