THE DETAILS:
Apply Now (CY)
- Location: Ygg Tyle'R Ynn,
- Hours: Full time
- Contract: Permanent
- Salary Type: Annual
- Salary: Gradd 3 (SCP 3-5) - £16,829 - £17,364 y flwyddyn
- Language: English
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Salary: Gradd 3 (SCP 3-5) - £16,829 - £17,364 y flwyddyn
SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2Dros Dro am Flwyddyn
I ddechrau: 1af o Fedi 2025
30 awr yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)
Mae'r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â'r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i'r staff a disgyblion. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd weithio yn y Clwb Gofal ar ôl ysgol am 2 awr bob pythefnos. Mae'r swydd yma am 30 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos cefnogol yr ysgol.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Dyddiad cau : 12:00 Dydd Mercher, 18fed o Fehefin. Cyfweliadau ar ddydd Llun 23ain o Fehefin
The above post is for a Teaching Assistant at YGG Tyle'r Ynn for which the ability to speak Welsh is essential