THE DETAILS:
- Location: Llandysul,
- Hours: Full time
- Contract: Permanent
- Salary Type: Annual
- Salary: 24,404 *
- Language: Welsh
This job application date has now expired.
Salary: 24,404 *
About the rolePlease note that the advertised salary for this position is subject to a pending pay award. The final salary will be adjusted in line with the nationally agreed pay award.
The following is for an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 2 (Sgiliau Bywyd)
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 i ymuno â thîm cynhwysiant yr ysgol er mwyn cefnogi ein darpariaeth Sgiliau Bywyd i ddisgyblion Oed Uwchradd. O dan arweiniad y Cydlynydd Sgiliau Bywyd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynllunio a darparu profiadau cyfoethog i ddisgyblion er mwyn eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau sylfaenol ac i fanteisio ar brofiadau bywyd go iawn ar gyfer dysgu. Croesewir ceisiadau felly wrth ymgeiswyr sydd yn gallu dod a sgiliau a gwybodaeth amrywiol i mewn i'r rôl hon.
Manylion y swydd:
- Cynllunio a darparu cyfleoedd i ddisgyblion oed uwchradd i ddatblygu sgiliau bywyd pwysig drwy brofiadau cyfoethog, bywyd go-iawn o fewn y darpariaeth Sgiliau Bywyd.
- Targedu ymyraethau i ddysgwyr penodol er mwyn sicrhau cynnydd priodol yn eu medrau.
- Gyda mewnbwn athrawon ac arbenigwyr, cynllunio a darparu ymyraethau penodol ar lefel 1:1 ac o fewn grwpiau bach.
- Goruchwylio a chefnogi disgyblion gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at ddysgu.
Agorwyd yr ysgol ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy'r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae'n cynnig cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o'r lleiaf i'r hynaf.
Mae Clwb yr Enfys yn gwneud defnydd o ystafelloedd pwrpasol o fewn ardal oed cynradd yr ysgol sydd yn cynnwys ystafell ddosbarth, gofod allanol ac ystafell aml-synhwyraidd.
Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu'n sylweddol ac ar hyn o bryd, mae oddeutu 850 o ddisgyblion yn yr ysgol gan gynnwys tua 85 yn y chweched dosbarth.
Arolygwyd yr ysgol gan Estyn yn Nhachwedd 2024 ac adroddwyd bod:
"...staff a disgyblion Ysgol Bro Teifi yn cydweithio'n agos i greu awyrgylch deuluol a chynnal ethos cynhwysol a gofalgar. Mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn sicrhau bod popeth sydd eu hangen arnynt o ran gofal a chefnogaeth ar gael yn ddi-rwystr. O'r dysgu sylfaen i'r chweched dosbarth, mae'r disgyblion yn gwireddu arwyddair yr ysgol, 'Oni heuir, ni fedir', yn llwyddiannus, gan fanteisio ar y cyfleoedd i ddatblygu'n ddinasyddion cyfrifol, parchus a charedig."
Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda yn eu gwersi ac o gwmpas yr ysgol. Maent yn dangos parch at ei gilydd ac at staff ac maent yn annwyl a chroesawgar gydag ymwelwyr.
"Mae'r ddarpariaeth ar gyfer cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn gryfder. O ganlyniad, mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion ADY yn gwneud cynnydd cryf yn erbyn eu targedau. Mae'r ddarpariaeth ychwanegol a geir yn y canolfannau 'Hafan','Clwb Cwtsh' a 'Chlwb yr Enfys' yn cyfrannu'n werthfawr iawn at y gofal a'r gynhaliaeth i ddisgyblion sydd eu hangen. "
I ddysgu mwy am ein ysgol, ewch i'n gwefan www.ysgolbroteifi.cymru
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Os am drafodaeth anffurfiol ynglwn â'r swydd hon neu i gael taith o amgylch yr ysgol cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Cydlynydd ADY, Mrs Cei Pryderi ar 01559 362503 neu drwy e-bost,PryderiC7@broteifi.ceredigion.sch.uk.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
What we offer
Work-life balance
Lifestyle savings scheme
Generous employer pension scheme
Cycle to work scheme
Learning and development
Where you'll work
Schools and Culture
We offer appropriate challenge and support to our schools, to help them deliver first class education to all pupils, across the age and ability range. Our primary functions are as follows:
- School Improvement: Leadership; Support and Challenge, Teaching and Learning; Digital Literacy; Literacy and Numeracy; Welsh in Education
- Additional Learning Needs: Provision for pupils with Additional Learning Needs, Inclusion; Attendance; Educational Psychology
- Pupil Wellbeing:Counselling; Welfare; Anti-Bullying, Pupil Voice
- Education Governance: Data ; Governor Support, Policy support
- School Admissions
- Culture: Music Service; Cered; Felinfach Theatre; Museum
- Infrastructure and Resources: Planning School Places; Modernisation and Twenty First Century Schools Programme; Buildings; Grants
- Catering: Day Centres; Primary Schools; Residential homes.
- Childcare Unit: Childcare Sufficiency Assessment; Childcare & Play Grant; Childcare Offer; Out of School (After School Clubs and Holiday Playschemes); Day Nursery, Cylch/Playgroup & Childminder business support and staff training
Read more