THE DETAILS:
Apply Now (CY)
- Location: Rhondda Cynon Taf,
- Hours: Full time
- Contract: Temporary
- Salary Type: Annual
- Salary: Gradd 6 (£27,269 x 65.28%)
- Language: Welsh
- Closing Date: 04 July, 2025 12:00 AM
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Salary: Gradd 6 (£27,269 x 65.28%)
Cynorthwyydd Dysgu (Lefel 3) Dros Dro (YGG Llwyncelyn)Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn
Ffordd y Grug, Llwyncelyn, Porth, Rhondda, CF39 9TL
Cynorthwyydd Dysgu (Lefel 3) - Dros Dro
Oriau: 27.5 awr yr wythnos (Tymor yr ysgol yn unig)
Cyflog: Gradd 6 (£27,269 x 65.28%)
Dyddiad dechrau'r swydd: Medi 2025
Math o Gontract: Dros dro tan 31/08/2026
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn wedi ei lleoli yn y Porth, Cwm Rhondda.
Mae gennym gyfle i unigolyn talentog, ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â ni fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu yn ein dosbarthiadau Derbyn.
Yn y rôl yma byddwch yn gweithio i gefnogi disgyblion ar draws holl gwricwlwm yr ysgol.
Wrth gyd-weithio gydag athrawon, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu profiad dysgu arbennig i'n disgyblion, yn cynnwys ein disgyblion sydd â anawsterau dysgu.
Dyma gyfle cyffrous i gynnig cefnogaeth yn y dosbarth, ac mewn rhai amgylchiadau tu allan i'r dosbarth. Bydd natur y gefnogaeth yn amrywio o gefnogi grwpiau bach o fewn y dosbarth i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd i gefnogi disgyblion gydag anghenion sydd angen cefnogaeth un i un.
Yn ddelfrydol bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth ac ymwybyddiaeth o amrywiaeth o ddulliau i gefnogi disgyblion. Fodd bynnag, darperir hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer datblygu'r sgiliau hyn.
Bydd gan y person agwedd bositif a phenderfynol. Byddant yn hyblyg wrth weithio gyda gwahanol ddisgyblion a staff, yn barod am sialensiau newydd ac yn dangos yr ysfa i ddatblygu'n bersonol.
Dylai ymgeiswyr feddu ar addysg o safon dda, blaengaredd a'r gallu i gyfathrebu'n dda gyda staff dysgu a disgyblion.
Mae modd cael ffurflenni cais, a rhagor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb y person ar gyfer y rôl drwy Wefan Recriwtio Ysgolion gan ddefnyddio'r ddolen: https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM Sylwch, i wneud cais am y swydd yma mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio Ysgolion. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am y swydd, ffoniwch Gavin Ashcroft, Pennaeth, ar 014435 62220 nodwch rif ffôn.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol nos (12pm) ar 04/07/2025.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.