THE DETAILS:
Apply Now (CY)
- Hours: Full time
- Salary Type: Annual
- Salary: Graddfa Gyflog o fewn: £32,433 - £49,944
- Language: Welsh
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Athro\/Athrawes - Ffederasiwn Ysgol Brynconin ac Ysgol Maenclochog
Pembrokeshire County Council
Salary: Graddfa Gyflog o fewn: £32,433 - £49,944
Athro/Athrawes Cam Cynnydd 2 ac arweinydd safleGraddfa Gyflog o fewn: £32,433 - £49,944 & TLR2A
Ffederasiwn Ysgol Brynconin ac Ysgol Maenclochog
Mae'r swydd hon yn llawn amser ac yn barhaol a bydd yn dechrau ym mis lonawr 2026.
Mae'r ysgol am benodi ymarferydd arloesol sy'n angerddol am ddysgu ac addysgu, blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ynghyd â datblygiadau cwricwlwm yng Nghymru. Mae'r corff llywodraethol angen unigolyn ysbrydoledig i weithio'n strategol fel rhan o Uwch-dîm y Ffederasiwn er mwyn parhau i yrru gwelliant yr Ysgol a'r Ffederasiwn ymlaen gan ddarparu'r profiadau addysgol gorau. Croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd sydd â phrofiad arweinyddiaeth neu sydd am ddatblygu fel rôl arweinydd.
Mae angen arweinydd arnom sydd:
- yn ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol gyda hanes profiadol o lwyddiant, sy'n ymrwymedig i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel i bob disgybl.
- yn angerddol dros gynhwysiant, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael y gefnogaeth a'r ddarpariaeth orau bosibl i wneud y mwyaf o'u potensial.
- yn meddu ar weledigaeth ac ysgogiad i sicrhau bod gan bob un o'n disgyblion a'n staff ddyheadau uchel a'u bod a'r gallu i lwyddo.
- yn modelu ac yn meddu ar y sgiliau a'r profiad i reoli ac ysbrydoli staff wrth hyrwyddo cynhwysiant o fewn Ffederasiwn Ysgol Brynconin ac Ysgol Maenclochog.
Fideo - Cyngor Sir Penfro
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.